People urged to use food waste bins

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Annog pobl Sir Gâr i osgoi rhoi gwastraff bwyd mewn bagiau du  

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi uno â chynllun Craff am Wastraff i annog aelwydydd i ddefnyddio’u bin gwastraff bwyd er mwyn lleihau nifer y bagiau du rydym ni’n eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

 

Yn ôl ystadegau newydd gan Lywodraeth Cymru, mae aelwydydd yn Sir Gâr yn cynhyrchu oddeutu 10,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn. Er gwaetha’r ffaith mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU lle mae pob cyngor lleol yn casglu gwastraff bwyd a lle mae gan bron bob cartref yng Nghymru fin gwastraff bwyd bellach, mae tua 30% o’n gwastraff bwyd yn cael ei roi mewn bagiau du o hyd.

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a chynllun Craff am Wastraff yn annog aelwydydd i ddefnyddio’u bin gwastraff bwyd er mwyn lleihau cyfanswm y gwastraff bwyd sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad o ran ailgylchu.

 

Meddai Richard Workman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae gwahanu gwastraff bwyd a gwastraff eich bin du arferol yn hawdd. Derbynnir pob math o fwyd, gan gynnwys cig a physgod, wedi’u coginio a heb eu coginio, crafion llysiau a ffrwythau, cynhyrchion llaeth, bara, teisennau a thartenni, reis, ffa a phasta.

 

“Fe allwch chi roi’r pethau na fyddech yn eu bwyta fel arfer yn eich bin gwastraff bwyd, fel plisgyn ŵy ac esgyrn. Gellir ailgylchu bagiau te a choffi mâl hefyd, a’r sbarion oddi ar eich plât ar ddiwedd pryd o fwyd”.

 

Mae gwastraff bwyd yn mynd â lle tirlenwi, ac yn cynhyrchu nwyon niweidiol fel methan wrth bydru gan gyfrannu at gynhesu byd-eang ac yn cynyddu’r perygl o newid yn yr hinsawdd.

 

Aeth Mr Workman ymlaen i ddweud: “Os caiff ei drin yn briodol, gall gwastraff bwyd fod yn adnodd gwerthfawr. Mae Cymru’n datblygu cyfleusterau sy’n gallu troi ein gwastraff bwyd yn ynni adnewyddadwy ar gyfer ein cartrefi a’n busnesau, yn ogystal â darparu compost a gwrtaith a fydd yn helpu ein cnydau i dyfu ac yn gwella’r pridd.

 

“Mae cartrefi Cymru yn cynhyrchu tua 227,000 tunnell o wastraff bwyd y flwyddyn, sy’n ddigon i lenwi dros 10,500 o fysus deulawr. Bob tro rydyn ni’n rhoi gwastraff bwyd yn ein bocs gwastraff bwyd, byddwn ni’n creu llai o fagiau bin du, gan leihau’r hyn sy’n mynd i gael ei dirlenwi a gwneud y gorau o’r sbarion na allwn eu hosgoi trwy eu troi’n ynni, yn wrtaith ac yn gompost.

 

Mae pawb yn creu rhywfaint o wastraff bwyd, ond drwy ddefnyddio’ch bocs gwastraff bwyd fe allwch chi wneud yn siŵr bod y gwastraff hwn yn cael ei droi’n rhywbeth defnyddiol yn hytrach na niweidio’r amgylchedd”.Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 27/3/2012