Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at
gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Tudalen wedi ei diweddaru ar 19/7/2011
Cefnogi Wythnos Rhawio'r Baw
ANOGIR perchnogion cŵn yn Sir Gaerfyrddin i glirio baw eu hanifeiliaid anwes.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Rhawio'r Baw 2011 rhwng 25 a 31 Gorffennaf.
Nod yr wythnos, sy'n cael ei chynnal gan yr Ymddiriedolaeth Gŵn, yw atgoffa perchnogion cŵn i godi baw eu cŵn a helpu i lanhau ein mannau cyhoeddus. Er bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn codi baw eu cŵn, mae rhai pobl esgeulus yn golygu bod enw drwg i gŵn o hyd.
Os na fyddwch yn codi baw eich anifail anwes, gallech gael hysbysiad cosb benodol o £75 neu wynebu cael eich erlyn yn y llys a chael dirwy o hyd at £1,000.
Bydd tîm ‘Rhawio'r Baw’ y Cyngor ar grwydr wythnos nesaf i gynyddu ymwybyddiaeth o faw cŵn a'i oblygiadau.
Bydd y tîm yn rhoi cyngor, gwybodaeth, a bagiau baw am ddim, a hynny rhwng 11am a 2pm ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, Doc y Gogledd, Llanelli, ddydd Mawrth 26 Gorffennaf; ym maes parcio traeth Pentywyn ddydd Iau 28 Gorffennaf; ac ym maes parcio Llansteffan ddydd Gwener 29 Gorffennaf.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae'r Cyngor yn benderfynol o atal problemau baw ci a gwella'r amgylchedd i breswylwyr Sir Gaerfyrddin ac i ymwelwyr.
“Drwy gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Rhawio'r Baw gallwn ni atgoffa perchnogion cŵn o'u cyfrifoldebau ac o oblygiadau peidio â chlirio ar ôl eu hanifail anwes.
“Mae unrhyw faw ci sy'n cael ei adael yn risg ddifrifol i iechyd, ac mae'n gallu achosi epilepsi, asthma, a hyd yn oed beri i bobl golli eu golwg. Ni fydd y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef a bydd pobl a gaiff eu dal yn torri'r gyfraith yn y ffordd hon yn cael eu herlyn."
Anogir perchnogion cŵn i gadw cyflenwad o fagiau plastig yn ymyl tennyn eu cŵn er mwyn eu cofio pan fyddant yn mynd am dro.
Cofiwch y gallwch waredu'r bag mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus (nid dim ond biniau sbwriel penodol ar gyfer baw cŵn) ond rhowch y baw mewn dau fag!
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am faw cŵn, cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567.