PROSIECT TAI YN CREU NIFER SYLWEDDOL O SWYDDI
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
PROSIECT TAI YN CREU NIFER SYLWEDDOL O SWYDDI 
19/10/2010 

MAE nifer mawr iawn o swyddi wedi eu creu yn y sir yn sgil prosiect, sy'n costio £200 miliwn, i wella tai cyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae rhaglen uchelgeisiol i wneud gwelliannau i'r 9,200 o dai sydd gan y cyngor sir wedi rhoi hwb aruthrol i'r diwydiant adeiladu.
Crëwyd swyddi ar gyfer cwmnïau lleol, ac mae mwy na 100 o brentisiaid wedi sicrhau lleoliadau gwaith yn ystod amser anodd yn economaidd.
Yn ôl gwaith ymchwil mae'r cynllun Safon Tai yn werth tua £25 miliwn y flwyddyn i'r diwydiant a'r economi leol.
Nod y rhaglen 10 mlynedd yw gwella stoc dai y cyngor ac adfywio stadau tai.
Mae ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn cael eu gosod ar gyfer miloedd o denantiaid, ynghyd â ffenestri a drysau newydd, a chaiff gwelliannau eu gwneud i'r gerddi.
Gwneir gwaith paentio a rendro, a chynhelir rhaglenni i inswleiddio waliau a cheudodau.
Mae'r cyngor wedi llunio Partneriaeth arloesol â Chontractwyr, ac mae wyth cwmni wedi eu dewis i gyflawni'r holl waith sylweddol.
Y nod yw sicrhau bod y rhaglen yn gallu cael ei gweithredu'n unol â'r amserlen, a hynny gan gontractwyr lleol, gan sicrhau gwaith i'r gweithlu am sawl blwyddyn.
Meddai Phil Lumley, Pennaeth Gwasanaethau Adeiladau y Cyngor: “Mae'r rhaglen Safon Tai yn pwmpio mwy na £25 miliwn y flwyddyn i mewn i'r diwydiant ac i'r economi leol.
“Mae hwn yn hwb sylweddol i'r diwydiant adeiladu ac rydym yn cynnal llawer o swyddi yn y fasnach adeiladu.
“Drwy'r Bartneriaeth â Chontractwyr mae cyfleoedd wedi codi i wella sgiliau yn y sir ac i gynyddu cyfleoedd i bobl leol gael swyddi a hyfforddiant.
 “Hefyd mae'r rhaglen wedi cryfhau'r berthynas â Choleg Sir Gâr, sef y prif ddarparwr hyfforddiant adeiladu yn y sir."
Cynorthwya'r rhaglen waith filoedd o denantiaid drwy leihau eu costau gwresogi. Mae o gymorth i breswylfeydd ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon ac mae hynny'n lleihau'r carbon deuocsid y mae tai cyngor yn ei ryddhau.
Hefyd ceir manteision i iechyd tenantiaid oherwydd gall oerfel achosi cyflyrau anadlu, ac mae cysylltiad rhwng bod yn oer ac iselder a gorbryder.
Mae'r cynllun wedi cael ei ganmol gan y tenantiaid, sy'n  hapus ynghylch y gwaith adnewyddu yn eu cartrefi. 
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Mae'r cyngor wedi ymroi i ddarparu'r gwasanaeth tai gorau posibl i'r tenantiaid, ac rwyf yn hynod falch fod y rhaglen Safon Tai yn creu cynifer o fuddiannau economaidd yn y sir.
“Mae'r rhaglen yn helpu i greu cynifer o gyfleoedd â phosibl i bobl gael swyddi a hyfforddiant, a hynny yn ystod cyfnod anodd iawn yn economaidd.”