Operation Bang
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Operation Bang 
12/10/2010 

Mae trigolion Sir Gâr yn cael eu hannog i gael Calan Gaeaf hapus ac i ofalu peidio â llosgi’u bysedd ar noson Tân Gwyllt.
Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol - fel rhan o Operation Bang Cymru - yn annog pobl i gael hwyl, ond i wneud hynny’n ddiogel ac i beidio â mynd dros ben llestri.
Gofynnir i siopau ac archfarchnadoedd beidio â gwerthu wyau a blawd i bobl ifanc yn y dyddiau cyn Hydref 31.
Mae posteri wedi’u paratoi i bobl eu rhoi yn eu ffenestri i ddweud a ydyn nhw’n croesawu’r sawl sydd am ofyn ‘cast ynteu ceiniog’ neu beidio. Maen nhw ar gael yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid  y Cyngor, swyddfeydd yr heddlu ac ar y wefan yn www.sirgar.gov.uk.
Bydd mwy o heddlu o gwmpas, byddan nhw’n ymweld â mannau trwyddedig ac yn gweithio gyda safonau masnach ynghylch gwerthu tân gwyllt.
Mae rhieni'n cael eu hannog i ofalu eu bod yn gwybod ble mae eu plant a beth maent yn ei wneud a'u hannog i fynd i ddigwyddiadau a drefnwyd megis disgos Nos Galan Gaeaf a sioeau tân gwyllt i'r cyhoedd.
Yn ôl Steve Mears, Prif Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed Powys: “Mae’r Timau Plismona Bro yn siarad â phobl ifanc mewn ysgolion am y modd y gall eu hymddygiad effeithio ar eraill.  Byddan nhw hefyd yn siarad ar y cyd a’r gwasanaeth tân ac achub am ddiogelwch ar noson tân gwyllt.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Pam Palmer, yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros ddiogelwch cymunedol: “Rydyn ni’n annog y rhai sy’n gofyn ‘cast ynteu ceiniog’ i feddwl yn ofalus am y drysau y maen nhw’n curo arnyn nhw’r Calan Gaeaf hwn ac i chwilio am y posteri a chymryd sylw ohonyn nhw.”
Nos Galan Gaeaf