Nid unrhyw hen wobr mo hon, ond gwobr genedlaethol ....
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Nid unrhyw hen wobr mo hon, ond gwobr genedlaethol .... 
01/10/2010 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Fusnes Genedlaethol yn yr un categori ag un o gewri'r stryd fawr, M&S.
Mae'r Cyngor yn ymgiprys â'r cawr am y Wobr Iechyd, Gwaith a Lles.
Ymhlith y lleill ar y rhestr fer y mae Heddlu Llundain a'r Northern Bank.
Bellach mae'r staff yn llunio cyflwyniad fideo i'w ddangos i banel o feirniaid annibynnol, cyn y seremoni wobrwyo fawreddog yn Grosvenor House, Llundain ym mis Tachwedd.
Dywedodd Elin Cullen, y Pennaeth Busnes a Gwasanaethau Arbenigol: “Mae llwyddo i gyrraedd yr un categori ag enwau mor adnabyddus yn gryn gamp ac yn destun balchder mawr inni.
“Rydym wedi penderfynu llunio ein cyflwyniad fideo byr ni ein hunain er mwyn rhoi sylw i'n gwasanaeth a hefyd er mwyn arbed arian drwy beidio â theithio i Lundain. Yn ogystal, ein gobaith yw bod gwneud hyn yn amlygu ein bod yn gallu meddwl mewn modd blaengar."
Cafodd y Cyngor ei gynnwys ar y rhestr fer ar sail ei ymrwymiad i atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng iechyd y staff a gwell perfformiad.
Roedd y cais yn cyfeirio at nifer o fentrau er mwyn gwella lles ac iechyd y gweithlu, gan gynnwys cyrsiau rheoli straen a gweithgor sydd yn derbyn cefnogaeth ar bob lefel - gan gynnwys y cyfarwyddwyr a chynrychiolwyr yr undebau llafur.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae'r Cyngor wedi cael canmoliaeth arbennig - Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol gan y Cynulliad am ei waith rhagorol ym meysydd iechyd a chynaliadwyedd.
Dywedodd y Cyng. Pam Palmer, sef Rheolwr Busnes y Bwrdd Gweithredol: “Mae'r wobr hon yn un bwysig iawn, ac i gyrraedd y rhestr fer mae'n rhaid ichi amlygu darpariaeth a pherfformiad rhagorol.
“Mae dim ond cyrraedd yr un categori â chwmnïau mawr fel M&S yn gamp anferth.
“Rydym yn ymfalchïo yn ein llwyddiannau, ac yn ôl pob golwg mae gennym bob cyfiawnhad, yn sgil y gydnabyddiaeth hon, dros fod yn falch.
"Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld sut aiff hi."