English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Gardd Synhwyrau Tîm Prosiect Camau Nesaf  

Mae tîm y prosiect Camau Nesaf yn hynod falch o gael datgelu y bydd gwerth parhaol i ffrwyth gwaith ymgeiswyr eleni yn sgil y gystadleuaeth.
Bydd y chwe bachgen, ynghyd â'u mentoriaid ac aelodau eraill o staff cwmni Lloyd & Gravell Ltd, yn creu gardd synhwyrau wedi'i seilio ar y thema 'saffari' yn Ysgol Heol Goffa, Llanelli, a hynny er lles plant ag anghenion arbennig.
Dyma'r flwyddyn gyntaf y mae prosiect cymunedol wedi bod yn gysylltiedig â chystadleuaeth Camau Nesaf.
Dywedodd Kevin Gravell: “Fel cwmni rydym yn ceisio rhoi cymaint ag y medrwn ni'n ôl i'n cymunedau, ac roedd ein staff eisoes wedi clustnodi'r ardd synhwyrau yn Heol Goffa fel prosiect gwerth chweil roedden nhw am neilltuo eu hamser rhydd eu hunain ar ei gyfer.
“Roedd yr amseru'n berffaith o ran cyd-fynd â'r prosiect Camau Nesaf ac rydym ni wrth ein bodd ein bod yn gallu rhoi prosiect cyn wyched i'r bechgyn ei gyflawni fel rhan o'r gystadleuaeth.
“Rhaid canmol y ffordd y mae'r bechgyn i gyd yn gyffrous ynghylch y prosiect ac maen nhw'n sylweddoli y bydd plant Ysgol Heol Goffa yn elwa'n fawr ar y gwaith maen nhw'n ei wneud am ddim drwy gydol gwyliau'r haf.”
Bydd yr ardd synhwyrau'n cynnwys arwynebau cyffyrddol ac offer llachar er mwyn ysgogi synhwyrau plant yr ysgol.
Bydd ymgeiswyr Camau Nesaf yn gweithio ar y safle drwy gydol yr haf er mwyn ei gwblhau erbyn i'r plant ailddechrau yn yr ysgol yn nhymor yr hydref.
Bydd yr ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn cyfres o heriau er mwyn profi eu sgiliau o ran gwaith saer, gosod brics, a phlastro. Bydd y sawl sy'n llwyddo'n ennill gwobr ac yn osgoi fforffed.
Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Awst ac yn dechrau ar ei brentisiaeth ddwy flynedd gyda Lloyd a Gravell ym mis Medi.


Mae prosiect Camau Nesaf yn cael ei gynnal gan 'Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd' (www.constructingcarmarthenshiretogether.co.uk) a Lloyd a Gravell (www.lloydandgravell.co.uk)
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.nextstepscarmarthenshire.co.uk neu www.facebook.com/nextstepscarmarthenshire

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/8/2012