English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Theatr newydd yn cael tanc "gwyrdd" i grynhoi dŵr glaw 

: Passers by though Llanelli new Theatre complex was having a swimming pool at the entrance but the massive pit excavated by TRJGosodwyd tanc 5,000 galwyn ar gyfer crynhoi dŵr glaw o dan y ffordd o flaen datblygiad y Ffwrnes.
Mae gosod y tanc crynhoi dŵr glaw yn ddatganiad "gwyrdd" a fydd yn sicrhau bod modd i'r ugeiniau o doiledau yn yr adeilad newydd gael eu fflysio heb ddefnyddio'r prif gyflenwad dŵr.
Dywedodd Phil Godridge, sy'n rheolwr prosiect y Ffwrnes ar ran y contractwyr sef TRJ, taw dim ond un fenter amgylcheddol o blith nifer ar y safle yw'r system arbed dŵr gan sicrhau bod y neges werdd yn cael lle blaenllaw o ran darparu'r ganolfan, ac o ran ei defnyddio yn y dyfodol.
Canolfan greadigol a diwylliannol ar gyfer adloniant a'r celfyddydau yw'r Ffwrnes a'r gobaith yw y caiff ei chwblhau erbyn diwedd 2012.
Mae'r datblygiad hwn, sy'n costio £15 miliwn, wedi cael ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Datblygiad yw hwn yng nghanol tref Llanelli ac mae ochr yn ochr â'r datblygiad hamdden sy'n costio £26 miliwn ym Mhorth y Dwyrain; bydd y naill ddatblygiad yn ategu'r llall.
Bydd y ganolfan yn cynnwys theatr bwrpasol newydd fydd â'r ddarpariaeth hyblyg ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol a phroffesiynol.
Hefyd bydd yn cynnwys theatr fach, swyddfeydd, a chanolfan mentrau cymdeithasol. Hen addoldy Capel Seion acFollow us on Facebook Ysgoldy Seion, sy'n adeiladau rhestredig gradd II, yw cnewyllyn y datblygiad newydd. 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/7/2012