Campfa Newydd

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Campfa Newydd 

Carmarthenshire County Council leader Cllr Kevin Madge with Shane Williams and his brother Dean, a personal trainer, at the planMae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymweld â safle Canolfan Iechyd a Ffitrwydd Gymunedol newydd sydd yn yr arfaeth yn Nyffryn Aman sef canolfan sy’n cael ei chynllunio gan Shane Williams, a oedd gynt yn un o sêr y Gweilch, Cymru a'r Llewod.
Ymwelodd y Cynghorydd Kevin Madge â'r hen uned ddiwydiannol yn Heol yr Orsaf, Glanaman, er mwyn dysgu rhagor am brosiect Canolfan Dyffryn Aman sy'n cael ei ddatblygu gan gyn-seren y Gweilch, Cymru a'r Llewod, yn ei bentref genedigol.
Mae gan Shane gynlluniau i addasu'r safle yn gampfa, cyfleuster arlwyo, lle hurio beiciau, sba, swyddfeydd a chyfleusterau eraill.
Dywedodd Shane Fairburn sy'n rheoli'r prosiect ac o gwmni pensaernïol ymgynghorol Elisblu: “Mae Shane yn prynu'r cyfleuster hwn ac rydym yn y broses o sefydlu menter gymdeithasol ac yn chwilio am gyllid.
“Byddwn yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i agor y gampfa a'i rhedeg tra byddwn yn dod o hyd i'r cyllid ar gyfer yr ailddatblygiad uchelgeisiol.”
Crossfit yw'r cysyniad sydd wrth wraidd y gampfa. Mae Crossfit yn system i ddatblygu ffitrwydd gweithredol sy'n cynnwys cyfuno gymnasteg, codi pŵer a chylchoedd ymarfer.
Meddai Shane Williams: “Fy ngweledigaeth yw rhoi rhywbeth yn ôl i’r Gymuned. Fan hyn y  dechreuodd y cyfan i mi a fan hyn y bydd yn gorffen mwy na thebyg.
“Gallem roi cyfleuster fel hwn yn unrhyw le yng Nghymru ond rhan o'r apêl i mi yw dod ag ef i Ddyffryn Aman.  Mae angen cyfleuster fel hyn ar y gymuned a hynny yng nghalon Glanaman ger Rhodfa Glan yr Afon sy'n rhan bwysig iawn o Ddyffryn Aman.”
Meddai'r Cynghorydd Madge: “Rwyf wrth fy modd fy mod yn cael y cyfle i gael golwg ar gynlluniau cyffrous Shane Williams. Gallai'r cynllun gyfrannu'n fawr at y gymuned hon a hoffwn ddiolch iddo am gynllunio'r buddsoddiad hwn yng Nglanaman”. Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/7/2012