Multi storey car park facelift works start

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Gwaith yn cychwyn i weddnewid maes parcio aml-lawr 

   

Bydd gwaith gwerth £1.75 miliwn i weddnewid maes parcio aml-lawr Stryd Murray, Llanelli yn dechrau ddydd Llun. (19eg Mawrth)

 

Caiff y gwaith ei gyflawni mewn saith cam yn ystod y flwyddyn er mwyn colli cyn lleied o lefydd parcio â phosibl wrth i bob un o'r saith llawr gael ei adnewyddu.

 

Yn ystod cam cynta'r gwaith yr wythnos nesaf bydd 135 o'r 527 o lefydd parcio yn y maes parcio'n cael eu colli ar unwaith wrth i lefel chwech a saith gael sylw yn gyntaf.

 

Ni ddisgwylir i hyn achosi unrhyw broblemau oherwydd mae'r system electronig sy'n cofnodi nifer   y cerbydau yn dangos mai anaml iawn y mae'r maes parcio aml-lawr yn fwy na hanner llawn, heblaw yn ystod tymor y Nadolig.

 

Bydd effaith y gwaith yn lleihau wrth i'r lloriau eraill gael sylw pryd y disgwylir colli rhwng 94 a 41 o lefydd.

 

Mae'r gwaith yn cynnwys gorchuddio rhan o'r adeilad â chladin rhwyllog, gosod lifftiau newydd, goleuadau newydd, marcio'r lonydd a'r llefydd parcio, trwsio'r concrid a sylw i'r mynedfeydd i Ganolfan Sant Elli.

 

Effaith y gwaith fydd ymestyn oes y maes parcio 40 mlwydd oed am 25 mlynedd arall.

Ar hyn o bryd mae modd parcio'n rhad ac am ddim yn y maes parcio am bedair awr y dydd o 10.00am ymlaen.

Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/3/2012