Tudalen wedi ei diweddaru ar 09/9/2011
Miloedd yn dysgu sgiliau newydd yn y Sir
Mae mwy na 230 o gyrsiau Dysgu Gydol Oes newydd yn cael eu cynnig mewn lleoliadau ar draws y Sir gan Wasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Sir Gaerfyrddin. Os oes diddordeb gennych mewn dysgu sgiliau newydd, datblygu eich rhagolygon swyddi, gwella eich Cymraeg neu ymgymryd â hobi newydd mae'n bosibl mai ymuno â chwrs rhan-amser yw'r ateb i chi.
Y llynedd, astudiodd mwy na 2300 o bobl gyrsiau gan Dysgu Sir Gâr a dywedodd 98% o ddysgwyr y byddent yn argymell cwrs i ffrind.
Dywedodd Matt Morden, Rheolwr Dysgu Gydol Oes: "Mae'n adeg wych i ennill sgiliau a chymwysterau newydd. Drwy ymuno ag un o'n cyrsiau, byddwch yn cael y cyfle i ehangu eich dewisiadau gyrfa, dechrau hobi newydd ysbrydoledig, gwella eich iechyd a'ch lles, bod yn fwy hyderus a chael budd cymdeithasol drwy ddysgu gydag eraill.
"Yn ogystal, gallwn ni helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau gwaith megis ysgrifennu CV, sgiliau cyfrifiadurol, Saesneg, Mathemateg ac ieithoedd. Hefyd, mae ystod eang o glybiau a chymdeithasau yn cael eu cynnal mewn Canolfannau Addysg Gymunedol, felly rydym ni'n hoffi meddwl bod gennym ni rywbeth i'w gynnig at ddant pawb.
Dywedodd Gwynne Wooldridge, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg y Sir: "Mae nifer y bobl sy'n cymryd y cyfle i ddysgu sgiliau newydd yn arbennig o dda. Mae hyn yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu."
I gael rhagor o fanylion, ewch i www.sirgar.gov.uk/dysgusirgar neu ffoniwch y staff isod yn eich canolfannau addysg gymunedol lleol:
Llanelli – Adrienne Bedington - 01554-744355
Caerfyrddin – Lynda Lumb - 01267 235413
Dinefwr – Sian Merlys - 01558 822729
Cymraeg i Oedolion - Angela Lewis - 01558 822729
Saesneg a Mathemateg - Teresa Fleming - 01554 776528