Mae Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi elusen i helpu milwyr sydd wedi gwasanaethu yn Affganistan a'u teuluoedd.
Mae'r Cynghorydd Siân Thomas wedi cynnig ei chefnogaeth i
Apêl Affganistan y Gwarchodlu Cymreig sy'n hyrwyddo cân codi arian gan y bariton Mark Llewelyn Evans a Band y Gwarchodlu Cymreig, sef Men of Harlech/Tell My Father.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Nid ydym ni'n rhoi digon o ôl-ofal i'n lluoedd arfog dewr. Mae gennyf berthynas sy'n briod ag un o arwyr rhyfel Affganistan a ddaeth adref yn deilchion, nid yn gorfforol ond yn feddyliol, ac oherwydd nad oedd unrhyw arwyddion allanol o anaf nid oedd llawer yn deall y trawma roedd yn ei wynebu yn fewnol.
“Mae angen inni wneud mwy ar gyfer ein milwyr dewr. Eleni, fel Cadeirydd, rwyf wedi dangos fy nghefnogaeth yn gyhoeddus i Wythnos y Lluoedd Arfog gan ymuno yn y digwyddiad codi baner yn Llanelli ac rwyf hefyd yn cefnogi'r gronfa Help for Heroes."
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gân Men of Harlech/Tell My Father ar wefan Mark
www.markllewelynevans.co.uk
