Mae cymaint o angen heddiw ag erioed am deuluoedd i fabwysiadu plant
05/11/2010
Yn ystod Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2010 (Tachwedd 1-7), dywed Gwasanaeth Mabwysiadu Gorllewin Cymru - sy'n gyfrifol am recriwtio, hyfforddi ac asesu teuluoedd mabwysiadol - bod cymaint o angen heddiw ag erioed am deuluoedd parhaol i blant yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gorllewin Cymru yn chwilio am ddarpar rieni o bob math a allai roi cartref parhaus i blant o bob oedran.
Efallai bydd rhai angen aros gyda'u brodyr a'u chwiorydd, ac efallai bydd eraill ag anabledd.
Mae'n bwysig i rai plant eu bod yn parhau i gael cysylltiad wyneb yn wyneb â'u teuluoedd geni.
Dywedodd Norry Hutchison, rheolwr Gwasanaeth Mabwysiadu Gorllewin Cymru: “Mae llawer o fythau ynghylch pwy all fabwysiadu, felly peidiwch â meddwl y byddwn yn gwrthod rhywun oherwydd eu bod dros 40 oed, yn sengl, neu ddim yn berchen ar eu tŷ nhw eu hunain.
“Yr hyn sydd wir ei angen arnom yw pobl sy'n gallu cynnig teulu cariadus a chefnogol am oes i blentyn neu i grŵp sibling. Pobl sy'n gallu helpu plentyn i ddod dros y rhesymau pam y maent mewn gofal a'u helpu i symud ymlaen a ffynnu mewn teulu newydd.”
Ychwanegodd: “Ar y dechrau, rydym yn gofyn yn syml i bobl ddod ymlaen a chael gwybod mwy am fabwysiadu. Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau gwybodaeth lle gall pobl sydd â diddordeb wybod mwy cyn ymrwymo i unrhyw beth.”
Gall unrhyw un a hoffai wybod mwy am fabwysiadu ffonio 01267 228622 neu anfon e-bost at adoptionenquiries@sirgar.gov.uk