Llwyddiant Safon Uwch a Safon UG yn Sir Gaerfyrddin
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/8/2011
Llwyddiant Safon Uwch a Safon UG yn Sir Gaerfyrddin 

Mae disgyblion yn Sir Gaerfyrddin yn dal i gael canlyniadau gwell yn eu harholiadau Safon Uwch a Safon UG na'r cyfartaledd yng Nghymru.
Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 100% wedi llwyddo yn y mwyafrif llethol o'r pynciau.
Llwyddodd 98.4% o'r disgyblion i gael gradd A* i E o gymharu â'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 97.2%.
I gyd, llwyddodd 6.5 % o'r disgyblion i gael y radd uchaf, sef A* o gymharu â'r gyfradd genedlaethol sef 6.3%; a llwyddodd 29.3% o ddisgyblion Sir Gaerfyrddin i gael cyfuniad o'r graddau uchaf, sef A* ac A, o gymharu â'r gyfradd genedlaethol sef 23.9%.
Dengys y canlyniadau lwyddiant parhaus mewn pynciau megis daearyddiaeth, astudiaethau cyfryngau, drama ac economeg ac mae ffigurau'r rhan fwyaf o bynciau'n cymharu'n ffafriol iawn â'r ffigurau ar gyfer Cymru gyfan.
Yn yr un modd, dengys y canlyniadau Safon UG bod y safonau uchel a gyrhaeddwyd yn y blynyddoedd blaenorol yn parhau. Roedd 100% wedi llwyddo mewn llawer o'r pynciau. Sylwyd yn arbennig ar y llwyddiant parhaus o ran cerddoriaeth, a chelf a dylunio.
Roedd 89.1% o'r disgyblion wedi cael Safon UG Gradd A i E o gymharu â'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 86.8%.
Dywedodd y Cynghorydd Gwynne Wooldridge, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Unwaith eto mae'r canlyniadau'n rhagorol ac rwy'n llongyfarch y myfyrwyr a'r staff yn wresog ar eu llwyddiannau. Mae'r safonau uchel sy'n dal i gael eu cyrraedd yn amlygu ymrwymiad yr awdurdod hwn drwy ei ysgolion, ei golegau a'i wasanaethau cymorth, i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael pob cyfle i gyflawni eu llawn botensial.”
Dywedodd Wyn Williams, y Pennaeth Addysg: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dymuno llongyfarch y nifer fawr o fyfyrwyr sydd wedi llwyddo i gyrraedd safonau eithriadol yng nghanlyniadau'r arholiadau Safon Uwch a Safon UG eleni, a hynny ar ôl dwy flynedd o waith caled.
“Wrth dalu teyrnged i'w hymdrechion a'u llwyddiant, mae'r Cyngor yn dymuno cydnabod hefyd yr ymroddiad a'r cymorth a roddwyd iddynt gan eu hysgolion, eu hathrawon a'u staff cymorth ac wrth gwrs, gan eu rheini, a fydd yn ymfalchïo ynddynt heddiw.”