Llansawel residents urged to have clear out

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Preswylwyr Llansawel a'r Tymbl yn cael eu hannog i waredu eu gwastraff 

Dyma esgus da ichi fynd ati o ddifrif i waredu eich eitemau sbwriel mawr a diolwg yn rhad ac am ddim.

 

Mae amnest gwastraff yn cael ei gynnal ym meysydd parcio pentrefi Llansawel a'r Tymbl rhwng 08:00 a 10:30 ddydd Sadwrn 28ain Ionawr.  Mae'n gyfle gwych i waredu eitemau swmpus megis celfi a nwyddau trydan.  Fodd bynnag, ni dderbynnir asbestos, teiars, paent, cemegion gardd, batris, poteli nwy, gwastraff adeiladu na gwastraff masnach.

 

Y nod yw annog preswylwyr i waredu gwastraff a allai gael ei waredu’n anghyfreithlon fel arall, yn ogystal â'u hannog i ailgylchu a/neu ailddefnyddio cymaint o'u sbwriel â phosibl.

 

Mae'r digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae'n cael ei gefnogi a'i gyllido gan Drefi Taclus.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio: “Rwy'n gobeithio bod preswylwyr yn manteisio ar y cyfle hwn i waredu unrhyw sbwriel cartref sydd ganddynt.

 

“Mae gwastraff swmpus megis celfi, pren a chardbord sy'n cael ei adael o gwmpas y cartref yn gallu bod yn berygl tân ac mae hefyd yn gallu cael ei waredu'n anghyfreithlon sy'n niwsans ac yn annymunol, yn ogystal â bod yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn beryglus o bosib.

 

“Drwy gydweithio, gallwn ni fynd i'r afael â'r broblem o dipio anghyfreithlon a gwella ansawdd ein hamgylchedd."

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau gwe ynghylch ailgylchu.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/1/2012