Preswylwyr Llanboidy yn cael eu hannog i ailgylchu sbwriel y cartref
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 26/9/2011
Preswylwyr Llanboidy yn cael eu hannog i ailgylchu sbwriel y cartref 

Mae preswylwyr yn Llanboidy yn cael eu hannog i fynd ati o ddifri i waredu ac ailgylchu unrhyw sbwriel sydd ganddynt yn eu cartrefi.
Bydd digwyddiad 'Ailgylchu ar daith' yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (3 Medi) ym maes parcio'r pentref rhwng 8am a 10.30am.
Gall preswylwyr fanteisio ar y cyfle unigryw hwn i gael gwared ag unrhyw eitemau mawr o sbwriel yn rhad ac am ddim. 
Gellir mynd â’r rhan fwyaf o wastraff y cartref i’r lleoliad hwn gan gynnwys eitemau gwastraff swmpus megis celfi a nwyddau trydan.  Fodd bynnag, ni dderbynnir asbestos, teiars, paent, cemegion gardd, batris, poteli nwy, gwastraff adeiladu na gwastraff masnach.  Bydd cymaint o'r gwastraff â phosibl yn cael ei ailgylchu.
Mae'r digwyddiad wedi cael ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyda'r nod o annog preswylwyr i waredu gwastraff a allai gael ei waredu’n anghyfreithlon fel arall ac i ailgylchu a/neu ailddefnyddio cymaint o'u sbwriel â phosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae gwastraff swmpus megis celfi, pren a chardbord sy'n cael ei adael o gwmpas y cartref yn gallu bod yn berygl tân ac mae hefyd yn gallu cael ei waredu'n anghyfreithlon sy'n niwsans ac yn annymunol, yn ogystal â bod yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn beryglus o bosib.
“Yn ogystal, mae modd ailddefnyddio neu ailgylchu llawer o'n gwastraff, o garpedi a matresi i eitemau trydan bach a chelfi.  Bydd yr holl wastraff sy'n cael ei waredu yn y digwyddiad hwn yn cael ei ddidoli a bydd cymaint ohono â phosibl yn cael ei ailgylchu,"
Os bydd gan breswylwyr unrhyw eitemau mawr o wastraff i'w gwaredu yn ystod y flwyddyn gallant ddefnyddio un o bum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y sir neu wneud cais i'r Cyngor gasglu gwastraff swmpus am dâl bach sef £12 am hyd at dair eitem.  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567 neu ewch i  www.sirgar.gov.uk