Wythnos Ymwybyddiaeth o Faethu Preifat
Mae rhieni ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i fod yn fwy gwybodus am y deddfau sy'n ymwneud â threfniadau maethu preifat.
Drwy gydol yr wythnos hon - dydd Llun, Mawrth 21, tan ddydd Sul, Mawrth 27 - mae timau maethu Cyngor Sir Caerfyrddin yn helpu rhieni i ddeall y rheolau ynghylch gofal maethu preifat, ac ynghylch y trefniadau y mae'n rhaid i'r rhieni eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod eu plant yn ddiogel.
Ystyr Trefniant Maethu Preifat yw pan fo rhywun ifanc sy'n iau nag 16 oed, neu 18 oed yn achos rhywun anabl, yn cael ei osod am 28 o ddiwrnodau neu ragor dan ofal oedolyn arall nad yw'n berthynas agos.
Ystyr perthynas agos yw modryb, ewythr, llys-riant, mam-gu, tad-cu, brawd neu chwaer, ond nid cefnder, hen fodryb, hen ewythr, na chyfaill i'r teulu.
Os rhoddir trefniant o'r fath ar waith, mae rheidrwydd cyfreithiol ar y rhiant i roi gwybod i'r awdurdod lleol o leiaf chwe wythnos cyn y dyddiad y mae'r trefniant i fod i gychwyn.
Dywedodd Jackie Sloane, Rheolwr Tîm Recriwtio Rhieni Maeth Sir Gaerfyrddin: “Mae gan rieni gyfrifoldeb dros sicrhau bod eu plentyn mewn trefniant maethu preifat sy'n addas ac yn ddiogel.
“Mae'n bosibl fod llawer o bobl heb fod yn gwybod am y gofynion cyfreithiol sydd ynghlwm wrth ofal maethu preifat, ac sydd wedi eu llunio i amddiffyn plant ac i sicrhau eu bod yn ddiogel.
“Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i sicrhau bod y plentyn yn cael gofal da ac yn ddiogel pan gaiff ei osod dan ofal rhywun arall, boed yn gyfaill neu'n berthynas nad yw'n cael ei ystyried yn berthynas agos.”
Ychwanegodd Gwynne Wooldridge, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae'n bwysig bod rhieni'n sylweddoli bod dyletswydd arnyn nhw i roi gwybod i'r awdurdod lleol os ydyn nhw'n bwriadu gofyn i rywun arall ofalu am eu plentyn am bedair wythnos neu ragor.
“Mae ein timau gofal maeth wrth law i estyn cyngor a chymorth i rieni, a byddan nhw'n sicrhau bod ein plant yn ddiogel drwy gydol cyfnod y trefniadau gofal.”
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Thimau Asesu y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ffonio 01554 742322 (Llanelli), neu 01558 825485 (Caerfyrddin a Dinefwr).
Nodyn i'r wasg: I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Laura Morris, Swyddog y Wasg, drwy ffonio 01267 224176.