English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/12/2011
Mae'n wythnos Amnest Offer! 

Cofiwch am yr wythnos Amnest Offer!
Mae pobl ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i chwilio yn eu hystafelloedd sbâr, eu hatigau a'u siediau am unrhyw offer diangen sydd wedi cael eu rhoi ar fenthyg iddynt yn flaenorol gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin yn cydweithio â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr i gynnal amnest offer er mwyn cael baglau, fframiau cerdded a chadeiriau olwyn yn ôl.
Drwy'r wythnos hon (dydd Llun 5 Rhagfyr - dydd Gwener 9 Rhagfyr), mae mannau gollwng penodedig wedi cael eu trefnu yn ardal Llanelli.
Mae'r rhain yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Bigyn yn Stryd John, Llanelli; Cymunedau yn Gyntaf Llwynhendy yn Heol Pemberton; Cymunedau yn Gyntaf Felin-foel yn y Ganolfan Adnoddau Gymunedol ger Heol Ynyswen; a Chymunedau yn Gyntaf Glanymôr a Thŷ-isha yn Stryd Inkerman.
Yn ogystal, mae croeso i bobl ollwng eitemau'n uniongyrchol yng Nghanolfan Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin ar Ystâd Ddiwydiannol Dafen neu ffonio i drefnu i'r eitemau gael eu casglu os ydynt yn byw'n bellach i ffwrdd.
Dywedodd Martin Figg, Rheolwr Gweithredu y gwasanaeth: “Rydym yn deall bod amgylchiadau pobl yn newid, sy'n golygu na fydd arnynt angen yr offer sydd wedi cael eu rhoi ar fenthyg iddynt.
“Yn ystod yr amnest, rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i edrych yn eu cartrefi eu hunain, neu i ofyn i'w teuluoedd, i weld a oes unrhyw offer y gellid eu dychwelyd inni - gallai hynny gynnwys baglau, fframiau cerdded, cadeiriau olwyn, stolau uchel, comodau neu fframiau toiled.
“Yr unig beth rydym yn ei ofyn yw bod yr offer yn lân. Wedyn, byddant yn cael eu diheintio, eu gwirio a'u rhoi i rywun arall a fydd yn cael budd ohonynt."
Mae'r Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig, sef cyd-fenter gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn darparu offer i dros 5,000 o bobl ar hyn o bryd.
Ers iddo gael ei lansio ym mis Hydref 2009, mae dros 20,000 o eitemau o offer cymunedol wedi cael eu rhoi ar fenthyg, ac oddeutu 7,000 o eitemau wedi cael eu dychwelyd.
Dywedodd y Cynghorydd Pat Jones, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl chwilio am unrhyw offer sydd ganddynt o bosib, a'u dychwelyd i greu rhagor o le yn eu cartrefi, a hynny mewn pryd i'r Nadolig!"
Os dymunwch gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Offer drwy ffonio 01554 744359 neu drwy anfon e-bost at cices@sirgar.gov.uk