Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn barod i gymryd y camau nesaf yn ei raglen uchelgeisiol i foderneiddio cyfleusterau gofal i bobl hŷn.
Ym mis Medi cyflwynir cynlluniau a manylion buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ardaloedd Caerfyrddin a Rhydaman.
Cam cyntaf y gwaith fydd adeiladu cyfleusterau Cynllun Gofal Ychwanegol o'r radd flaenaf yn Nhre Ioan, Caerfyrddin ar safle cartref gofal preswyl Argel, ynghyd â chyfleusterau yn lle Cartref Tawelan.
Bydd y cynllun yn Rhydaman, yn lle cartrefi gofal Tegfan a Glanmarlais, yn dilyn hynny.
Bwriedir y bydd pob cynllun yn darparu 50 o fflatiau un neu ddwy ystafell gan ddiwallu anghenion pobl sydd ag angen ychydig yn unig o ofal a'r rheiny sy'n ddibynnol iawn ar gymorth.
Bydd cynllun Tre Ioan hefyd yn darparu 12 o fflatiau gofal dementia penodedig, ynghyd â chanolfan ddydd â 25 o lefydd.
Dywedodd Bruce McLernon, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai Cyngor Sir Gaerfyrddin: "Mae'r cynlluniau hyn yn rhan sylweddol o'n rhaglen buddsoddi cyfalaf, y buom ni'n ei darparu dros nifer o flynyddoedd er mwyn moderneiddio'r ddarpariaeth gofal yn Sir Gaerfyrddin.
"Bydd y cynlluniau newydd yng Nghaerfyrddin a Rhydaman yn fodd i ni fanteisio i'r eithaf ar fewnfuddsoddi ychwanegol a darparu llety a gofal sy'n addas i'r diben ac yn diwallu anghenion pobl hŷn yn yr oes sydd ohoni."
Ychwanegodd: "Rydym ni'n falch o ymateb preswylwyr, eu teuluoedd, y staff a'r aelodau lleol sydd wedi bod yn gefnogol iawn i'n cynlluniau i ddatblygu'r cynllun newydd yng Nghaerfyrddin ar safle presennol Argel ."
Mae'r Cynlluniau Gofal Ychwanegol sydd wedi cael eu darparu'n barod yn rhan o raglen fuddsoddi'r Cyngor yn cynnwys Plas-y-môr ym Mhorth Tywyn a Chwm Aur yn Llanybydder.
Mewn ardaloedd eraill, mae cartrefi gofal preswyl traddodiadol - fel cartref Maesllewelyn, Castellnewydd Emlyn a Llys y Bryn, Llanelli - wedi cael eu hailddatblygu neu eu helaethu.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Trwy'r cynlluniau hyn rydym ni'n cadw ein haddewid i fuddsoddi mewn gofal i bobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin Rydym ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion pobl heddiw ac yn y dyfodol."
• Mae'r mater hwn yn eitem ar agenda cyfarfod Bwrdd Gweithredol y Cyngor ddydd Llun 16 Gorffennaf, 2012.
