English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Taniwch ddychymyg eich plentyn yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni!  

Mae llyfrgelloedd ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin yn croesawu plant i Sialens Ddarllen yr Haf eleni, sy'n cael ei lansio'r penwythnos hwn.
Nod y sialens yw ysbrydoli miloedd o deuluoedd i gymryd rhan yn nigwyddiad darllen mwyaf y Deyrnas Unedig i blant mewn llyfrgelloedd.
Mae plant rhwng 4 a 12 yn cael eu hannog i ddarllen chwech neu ragor o lyfrau o’u dewis yn ystod gwyliau’r haf a byddant yn cael cymhellion a gwobrau i’w casglu – ynghyd â thystysgrif i bob plentyn sy’n cwblhau’r Sialens. 
Teitl Sialens Ddarllen yr Haf 2012 yw Story Lab ac mae pedwar cymeriad: Lex, Rani, Will ac Evie, ynghyd ag Aesop, cath goch y lab. Byddant yn helpu’r Athro Cortex i gasglu a rhannu straeon i danio dychymyg miloedd o bobl ifanc.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: "Yn ogystal â bod yn un o sgiliau hanfodol bywyd, mae darllen yn rhoi llawer iawn o foddhad i blant. Mae cael plant i fwynhau darllen yn gynnar yn eu bywydau'n hollbwysig i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau, ac mae cyfraniad pwysig gan ein llyfrgelloedd yn hyn o beth.
"Mae'r prosiect hwn yn ffordd wych o gael ein plant i ddarllen ac rwy'n annog pawb i fynd draw i'w llyfrgell leol yr haf hwn i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yno."
Mae gwefan ryngweithiol 'Story Lab' (www.story-lab.org.uk) yn rhoi cyfle i blant drafod eu hoff lyfrau a’u profiadau darllen gydag awduron a darlunwyr amlwg.
Cafodd y sialens ei chynllunio ar gyfer plant o bob oed a gwahanol alluoedd darllen. Mae croeso iddynt ddarllen unrhyw lyfrau o’u dewis cyn belled â’u bod yn cael eu benthyg o’r llyfrgell: llyfrau ffeithiau, straeon, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau – mae llyfrau llafar ac e-lyfrau yn cyfrif hefyd!
Hefyd bydd llyfrgelloedd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau arbennig yn ystod y gwyliau er mwyn helpu i ddathlu Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Ychwanegodd y Cynghorydd Davies: “O ran rhieni sydd heb ymuno, mae hwn yn gyfle perffaith iddyn nhw wneud hynny - gall unrhyw un ymuno â llyfrgell ac mae'r cyfan am ddim. Dim ond un cynllun cyffrous yw Sialens Ddarllen yr Haf o blith nifer y mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn eu datblygu i helpu plant i feithrin cariad at ddarllen, i ennill hyder, ac i gael sgiliau newydd."
I gael rhagor o wybodaeth, galwch yn eich llyfrgell leol, ewch i www.llyfrgellcymru.org,   neu ffoniwch  
Guto Llywelyn yn Llyfrgell Rhydaman - 01269 598150
Catrin Simon neu Lesley Cresswell yn Llyfrgell Llanelli - 01554 773538
Kevin Bowen yn Llyfrgell Caerfyrddin - 01267 224832
Fel arall, ewch i www.sirgar.gov.uk

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 18/7/2012