Ymunodd deugain o ferched o bob cwr o Sir Gaerfyrddin â gweithdy dyfarnu hoci yn yr Ysgubor, Parc y Scarlets.
Cafodd cwrs y camau cyntaf ar gyfer dyfarnu ei arwain gan Jen Barton o Hoci Cymru gyda chymorth gan dîm datblygu chwaraeon Cyngor Sir Caerfyrddin.
Roedd y deugain yn cynnwys pobl ifanc o Glybiau Hoci Sir Gaerfyrddin - Dinefwr a'r Fro, a leolir yn Rhydaman; Teigrod Tywi o Landeilo a thîm Llanelli.
Dywedodd Rae Ellis, swyddog datblygu hoci y Sir fod y gweithdy wedi cael ei lunio'n benodol ar gyfer chwaraewyr hoci iau y Sir.
Dywedodd: "Mae hyn yn golygu y gall y clybiau iau hyn, pan fyddant yn cwrdd unwaith bob mis yng Nghanolfan datblygu hoci Sir Gaerfyrddin, gymryd cyfrifoldeb dros ddyfarnu gemau sy'n cael eu chwarae yn y Gynghrair."
Yn y gynghrair fisol, darperir ar gyfer y clybiau o dan 13 a'r clybiau o dan 15.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Hamdden: "Mae cymaint o waith da a di-glod yn cael ei wneud ar gyfer ein pobl ifanc ledled y sir.
“Mae'r tîm datblygu chwaraeon yn parhau i ddarparu gwasanaethau er gwaethaf y toriadau llym ar draws y gwasanaeth a dylid eu cymeradwyo nhw am eu hymdrechion."