English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Cynllun y Dasgfan yn ymestyn tua'r gogledd 

Bro Ryan Sheltered Housing Scheme tenants Moreen Jenkins and Eirian Rees with Sheltered Scheme Officer Gail Thomas, HandyVan tecBellach gall tenantiaid sy'n byw mewn Cynlluniau Tai Gwarchod yng ngogledd y sir gael cymorth i fynd i'r afael â mân dasgau.
Mae is-adran Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin wedi  ymestyn ei chynllun Tasgfan poblogaidd, a gafodd ei lansio fel cynllun prawf yn ardal Llanelli yn 2010.
Golyga hyn y gall tenantiaid sy'n byw mewn tai gwarchod a gynhelir gan y Cyngor alw am gymorth i wneud mân-atgyweiriadau o gwmpas y cartref, megis gosod lluniau a rheiliau llenni, llacio ffenestri a drysau sy'n drafferthus i'w hagor, a chydosod celfi sy'n dod mewn pecyn fflat.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno gan y Cyngor er mwyn cynnig gwasanaeth o werth ychwanegol i denantiaid, a hefyd er mwyn dilyn yr egwyddor bod cymryd camau ataliol yn rheolaidd yn golygu llai o  geisiadau am waith atgyweirio mwy costus maes o law.
Yn ogystal, mae'n rhoi sicrwydd i'r tenantiaid taw gweithiwr cymeradwy y maent yn ei groesawu i'w cartrefi.
Dywedodd Chris Derrick, y Rheolwr Rhanbarthol: “Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ystod ei gyfnod prawf yn ardal Llanelli. Mae hyn wedi rhoi cyfle inni asesu effaith y cynllun a datrys unrhyw broblemau. Rydym ni wedi cael ymateb gwych gan y tenantiaid sydd wedi defnyddio gwasanaeth y Dasgfan. Maen nhw wedi dweud wrthym ni fod y Dasgfan wedi eu harbed rhag gorfod dibynnu ar berthnasau nad ydynt o bosibl yn byw yn yr ardal, ac wedi rhoi sicrwydd ychwanegol iddynt."
Mae tasgmon sy'n siarad Cymraeg ac sy'n rhan o gynllun prentisiaethau'r Cyngor wedi cael ei benodi i'r swydd.
Gall tenantiaid drefnu i fân-atgyweiriadau gael eu gwneud drwy gysylltu â'u Swyddog Tai Gwarchod.
Dywedodd y Cynghorydd Colin Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Eiddo, Cyngor Sir Caerfyrddin:  “Mae hwn yn gynllun gwych sy'n rhoi gwerth ychwanegol i'n tenantiaid ac sydd yno i roi cymorth iddyn nhw pan fo'r angen. Rwy'n hollol hyderus y bydd y cynllun yn llwyddiant ysgubol."Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/8/2012