Mae trigolion Sir Gâr yn cael eu hannog i gael Calan Gaeaf hapus ac i ofalu peidio â llosgi’u bysedd ar noson Tân Gwyllt.
Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol - fel rhan o Operation Bang Cymru - yn annog pobl i gael hwyl, ond i wneud hynny’n ddiogel ac i beidio â mynd dros ben llestri.
Gofynnir i siopau ac archfarchnadoedd beidio â gwerthu wyau a blawd i bobl ifanc yn y dyddiau cyn Hydref 31.
Mae posteri wedi’u paratoi i bobl eu rhoi yn eu ffenestri i ddweud a ydyn nhw’n croesawu’r sawl sydd am ofyn ‘cast ynteu ceiniog’ neu beidio.
Bydd mwy o heddlu o gwmpas, byddan nhw’n ymweld â mannau trwyddedig ac yn gweithio gyda safonau masnach ynghylch gwerthu tân gwyllt.
Mae rhieni'n cael eu hannog i ofalu eu bod yn gwybod ble mae eu plant a beth maent yn ei wneud a'u hannog i fynd i ddigwyddiadau a drefnwyd megis disgos Nos Galan Gaeaf a sioeau tân gwyllt i'r cyhoedd.
Cast ynteu Ceiniog:
- Ewch ag oedolyn gyda chi bob amser
- Ewch i dai lle’r ydych chi’n adnabod y bobl a lle’r ydych chi’n gwybod y cewch chi groeso
- Peidiwch â mynd i dai sydd heb boster yn dweud eu bod nhw’n croesawu'r rhai sy’n gofyn ‘cast ynteu ceiniog’
- Peidiwch â siarad â phobl dieithr
- Peidiwch â mynd i mewn i’r tŷ
Diogelwch tân gwyllt:
- Prynwch dân gwyllt sy’n cyfateb i Safonau Prydeinig ac sydd â BS 7114 ar y bocs.
- Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed fod â thân gwyllt yn eu meddiant.
- Mae’n anghyfreithlon cynnau tân gwyllt ar ôl canol nôs ar 5 Tachwedd.
- Cadwch dân gwyllt mewn bocs â chaead arno. Dilynwch y cyfarwyddiadau, cyneuwch o hyd braich, a sefwch yn ddigon pell nôl.
- Peidiwch fyth â mynd at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau. Hyd yn oed os nad yw wedi tanio gallai ffrwydro.
- Peidiwch fyth â rhoi tân gwyllt yn eich poced na’u taflu nhw.
Cadwch lygad ar blant bob amser.
- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.
Peidiwch ag yfed alcohol os ydych yn bwriadu cynnau tân gwyllt.
- Peidiwch â chynnau tân gwyllt mewn man cyhoeddus (oni bai fod hynny mewn digwyddiad sydd wedi’i drefnu).