HWB ARIANNOL I CHWARAEON YN SIR GAERFYRDDIN
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
HWB ARIANNOL I CHWARAEON YN SIR GAERFYRDDIN 
14/09/2010 

Mae bron i £13,000 o gyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn Sir Gaerfyrddin.
Yn y rownd ddiweddaraf o gymeradwyo cyllid o'r Gist Gymunedol, mae cyfanswm o £12,767 wedi cael ei roi i 16 o wahanol glybiau a phrosiectau.
Mae grant o hyd at £1000 ar gael drwy Gist Gymunedol Loteri Genedlaethol Cyngor Chwaraeon Cymru. Y nod yw annog mwy o bobl i fod yn fwy gweithgar.  Caiff ei gynnal yn lleol mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chwaraeon Cymru.

Yn y trydydd o chwe chyfarfod Cist Gymunedol i gael eu cynnal yn y Sir eleni, rhoddwyd cyllid i brosiectau a oedd yn cynnwys:
• Cymdeithas Gymunedol Llannewydd, Traws-mawr - £683 i gynnal clwb tennis bwrdd newydd ar gyfer pob oedran yn y cyfleuster sydd newydd gael ei adnewyddu.
• Clwb Pêl-droed Merched Dre-fach - £670 ar gyfer cyfleusterau hyfforddiant a gwisg chwaraeon y clwb.
• Clwb Karate Caerfyrddin -  £1,000 ar gyfer offer amddiffyn er mwyn cynyddu nifer y sesiynau ac ar gyfer hyfforddi aelodau.
• Terry Griffiths Matchroom - £1,000 ar gyfer cynnal clwb penwythnos ar gyfer plant rhwng 11 ac 16 oed sy'n gysylltiedig â'r fenter 5x60.
• Crwydriaid Caerfyrddin - £586 er mwyn dechrau tîm pêl-droed iau newydd.
• Cymdeithas Pysgotwyr Llandeilo - £600 ar gyfer sesiynau pysgota gêm i blant rhwng 11 ac 16.

 

Meddai'r Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden:  “
"Mae hwn yn newyddion gwych yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Mae cyllid o'r math hwn yn amhrisiadwy ar gyfer cynnal cyfleusterau a chreu cyfleoedd iechyd a chymdeithasol newydd mewn meysydd a chlybiau a allai fod â'u dyfodol yn y fantol heb yr arian.

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:

"Drwy gael paneli lleol yn penderfynu ar anghenion lleol, mae'r Gist Gymunedol wedi bod ac yn parhau i fod yn llwyddiant mawr ac yn boblogaidd yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y grantiau yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o wahanol chwaraeon a gweithgareddau ar gyfer pobl leol."


cysylltwch â Ron Cant, Swyddog y Wasg Gwasanaethau Hamdden ac Adfywio Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267-224923 neu 07811101531