Roedd Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn bresennol adeg lansio gatiau newydd y groesfan reilffordd ym Mronwydd gan Reilffordd Gwili.
Dechreuodd yr achlysur gydag anerchiad croeso gan Peter Nicholas, Cadeirydd Cwmni Rheilffordd Gwili, cyn i Gadeirydd y Cyngor, y Cyng. Siân Thomas, a Robin Leleux o’r Gwobrau Treftadaeth Rheilffyrdd Cenedlaethol (yn y llun) ddadorchuddio’r plac coffa.
Wedyn, teithiodd y gwesteion ar y trên a chael te prynhawn cyn dychwelyd i Orsaf Bronwydd.
