
Mae pobl ifanc yn Llanelli wedi dangos beth yw gwir ystyr 'Gweithredu gan Ieuenctid' drwy lanhau Parc Penymorfa.
Cafodd y parc graffiti ym Mhenymorfa, a gwblhawyd dan fenter Splash and Play, ei fandaleiddio â phaent gwyn. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithio ochr yn ochr â phrosiect SMART i drefnu ymgyrch lanhau gan bobl ifanc a gafodd y cyfle i baentio eu graffiti eu hunain ar un ochr wal graffiti'r parc.
Dywedodd Kelly Wood, Gweithiwr Datblygu Cymunedau yn Gyntaf: “Mae hyn yn ymwneud ag annog pobl ifanc i leisio'u barn am y problemau y maen nhw'n eu hwynebu a chymryd camau i fynd i'r afael â’r problemau hynny. Mae'n ymwneud â pherchenogi hefyd. Bydd gwaith y bobl ifanc hyn yno i'r holl gymuned ei werthfawrogi.”
“Y gobaith yw y bydd yr ymwybyddiaeth o effeithiau fandaliaeth yn cynyddu yn sgil y prosiect.”