English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/9/2011
Golff Garnant yn gwireddu breuddwyd i’r perchnogion newydd  

MAE sicrhau’r cwrs golff ysblennydd ar ochr y mynydd yng Ngarnant yn gwireddu breuddwyd i Clay’s Golf.
Mae’r cwmni o Wrecsam wedi derbyn prydles 25 mlynedd a chymhorthdal gan Gyngor Sir Caerfyrddin i redeg a rheoli’r cwrs golff a’r clwb ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Byddant yn creu 10 swydd newydd.


Crëwyd y cwrs golff dinesig yng Ngarnant, sy’n mesur 120 o erwau a 7,000 o lathenni, yng nghanol y 1990au am gost o bron i £1 filiwn ar dir a arferai fod yn rhan o waith glo brig Garnant.
Fe’i disgrifiwyd yn gwrs golff dinesig gorau Cymru ac mae ganddo olygfeydd godidog o’r Mynydd Du a Mynydd y Betws o’i glwb a’i ffyrdd clir.


Oherwydd yr hinsawdd economaidd bresennol, roedd yr Awdurdod wedi cynnal adolygiad o’i holl wasanaethau hamdden a chytuno y gellid prydlesu Golff Garnant i’r cynigydd gorau a fyddai’n sicrhau ei ddyfodol a’i ddatblygiad.
Mae prydles 25 mlynedd Clay’s, a lofnodwyd ar Fedi 1af (2011), yn cynnwys cymhorthdal sy’n gostwng o £80,000 ym mhob un o’r ddwy flynedd gyntaf i ddim cymhorthdal gan yr Awdurdod a chyfran o’r incwm o flwyddyn chwech ymlaen.


Dywedodd y Cyng. Clive Scourfield, yr aelod o fwrdd gweithredol y sir dros adfywio a gwasanaethau hamdden: “Cafwyd sawl datganiad o ddiddordeb yn y cyfleuster ysblennydd hwn. Rydym yn falch iawn bod Clay’s wedi llwyddo. Mae ganddynt hanes gwych ym maes datblygu golff yn y ganolfan y maent yn ei rhedeg yn Wrecsam.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir a’r aelod lleol:  “Roedd mor bwysig ein bod ni fel cyngor, ar ôl yr holl waith da sydd wedi digwydd yng Ngarnant, yn cael gofalwyr newydd a allai gynnig arbenigedd a mynd â Garnant i’r lefel nesaf, sef rhywbeth nad yw yn ein cylch gwaith ni.


”Rwy’n croesawu Clay’s a gobeithiaf y bydd pobl Garnant a Sir Gaerfyrddin yn cefnogi’r clwb golff yn y fenter newydd hon. Rwy’n sicr y bydd yn llwyddiant ysgubol ac y bydd yn cael ei hyrwyddo ymhlith y gymuned ehangach dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Dywedodd Steve Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Clay’s Golf, pan ddaeth ef a’i bartner i ymweld â Garnant am y tro cyntaf eu bod wedi’u syfrdanu gan ei leoliad godidog ar gyrion parc cenedlaethol.
“Mae ein henw da yn seiliedig ar ddarparu golff gwych, cyfleusterau ardderchog, lletygarwch rhagorol a chroeso cynnes a hamddenol, a byddwn yn dod â hyn i gyd i Garnant. Mae ganddo botensial gwych.
Dywedodd: “Mae sicrhau Garnant yn gwireddu breuddwyd. Rydym eisoes wedi dechrau gweithredu’r cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer ei ddatblygiad, yn ffisegol fel cwrs ac yn gymdeithasol.


“Y cam cyntaf yw datblygu’r clwb a’r ystafelloedd derbyniadau gan fanteisio ar y golygfeydd digyffelyb. Mae Bragwyr Carlsberg wedi ymuno â ni ac rydym yn datblygu lolfa Sky Sports i aelodau ac ymwelwyr.
“Mae gennym ddau gogydd ac rydym yn bwriadu datblygu enw yn brif leoliad ar gyfer priodasau a phob math o dderbyniadau yn un o’r lleoliadau gorau yng Ngorllewin Cymru.
“O ran golff, bydd amrywiaeth o gyfleoedd fforddiadwy a bydd unrhyw un yn gallu dod i chwarae am gyn lleied â £7 y rownd a bydd aelodaeth o £50 y flwyddyn.
“Yn y dyfodol agos, rydym yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer cwrs golff byr par tri ychwanegol â phum twll i helpu i ddatblygu ysgolion a golff academi, yn ogystal â maes ymarfer dan do a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth roi cyfle i bawb brofi’r gamp.
“Rydym eisoes wedi’n cydnabod gan Undeb Golff Cymru yn ganolfan ragoriaeth yn Wrecsam a byddwn yn dod â’r ymrwymiad hwn i wella a datblygu cyfleusterau chwarae ac ymarfer yng Ngarnant i’r rheiny sy’n newydd i golff a chwaraewyr profiadol.
Mae gwefan newydd Garnant yn cael ei chreu ond bellach gall aelodau newydd ac aelodau presennol drefnu amser cychwyn ar-lein.


 http://www.garnantgolfclub.co.uk/
http://www.claysgolf.co.uk/