GWOBR BWYSIG I DÎM Y GWASANAETHAU TAI
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
GWOBR BWYSIG I DÎM Y GWASANAETHAU TAI 
13/10/2010 

Mae'r prif swyddogion tai yn Sir Gaerfyrddin yn dathlu ar ôl i'r gwasanaethau tai gael gwobr genedlaethol bwysig am eu gwaith.
Mae staff y cyngor sir wedi cael 'Oscar' y diwydiant am ddarparu tai fforddiadwy o safon.
Buont yn cystadlu ag eraill ledled y wlad i gipio gwobr fawr ei bri Rhagoriaeth Cymru.
Cafodd rhaglen £200 miliwn y Safon Tai, y gwaith i ddarparu tai fforddiadwy a'r buddion iechyd a grëwyd yn sgil gwelliannau tai eu cydnabod yn enghreifftiau rhagorol i eraill eu dilyn.
Mae'r wobr, y mae llawer yn awyddus i’w hennill, yn cydnabod y gwaith a wneir yn Sir Gaerfyrddin i ddarparu cyngor o'r radd flaenaf ynghylch tai, i gynyddu nifer y tai fforddiadwy ac i godi safon tai perchen-breswylwyr a thai sydd ar osod yn breifat.
Yn ogystal, mae'n wobr i raglen £200 miliwn y Safon Tai, sydd â'r nod o wella stoc dai y cyngor ac adfywio ystadau tai.
Cafodd y Cyngor ganmoliaeth am gyfres o lwyddiannau yn y sector tai yn y flwyddyn ddiwethaf. 
Mae'r swyddogion wedi gweithio i ostwng yn fawr iawn nifer y teuluoedd a roddir mewn llety gwely a brecwast.
Yn ogystal, mae nifer y preswylfeydd sy'n anaddas ac sydd mewn cyflwr gwael wedi gostwng yn sylweddol.
Gwnaed cynnydd mawr o ran rhaglen 10 mlynedd y Safon Tai. Cafodd miloedd o denantiaid geginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, a hefyd gosodwyd ffenestri a drysau a deunyddiau inswleiddio ceudodau a waliau, a gwnaed gwaith peintio a gwelliannau i erddi.
Mae'r rhaglen yn cynorthwyo miloedd o denantiaid i leihau eu costau gwresogi. Mae o gymorth i breswylfeydd ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon ac mae hynny'n lleihau'r carbon deuocsid y mae tai cyngor yn ei ryddhau.
Mae'n fuddiol i iechyd y tenantiaid oherwydd gall oerfel achosi cyflyrau anadlu, a hefyd mae cysylltiad rhwng bod yn oer ac iselder a gorbryder.
Mae’r rhaglen wedi creu swyddi mewn cyfnod economaidd anodd ac mae wedi creu cyfleoedd hyfforddi i 100 o brentisiaid.
Meddai Robin Staines, Pennaeth Gwasanaethau Tai y Cyngor: “Rydym yn credu mai tai fforddiadwy o safon yw sylfaen ein cymunedau.
“Mae hyn yn cael effaith aruthrol ar iechyd a lles, yr amgylchedd, yr economi a chymdeithas, gan effeithio ar yr hen a’r ifanc.
"Mae tai yn faes yr ydym yn ei gymryd o ddifrif ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael y wobr hon gan Ragoriaeth Cymru.”
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yng Nghynhadledd Effeithlonrwydd ac Arloesedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Llandrindod.
Cafodd Sir Gaerfyrddin yn benodol ei chanmol ar ôl ennill pedwar o'r categorïau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad, ymdrechion a blaengarwch staff y gwasanaethau tai yn                Sir Gaerfyrddin.
“Rydym wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau rhagorol a fydd yn gwella iechyd a lles pobl yn y sir.
“Rwy'n canu clod pawb sy'n gweithio mor ddiwyd i ddarparu gwasanaeth mor rhagorol i'n cymunedau."

LLONGYFARCHIADAU: Robin Staines, Pennaeth Gwasanaethau Tai Sir Gaerfyrddin, yn derbyn gwobr Rhagoriaeth Cymru gan Sue Essex, un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru.