.jpg)
Stondin ffrwythau Seward’s ym Marchnad Llanelli oedd cuddfan diweddaraf Dai Greene o Lanelli, pencampwr y byd dros y clwydi, sy’n gobeithio ennill medal aur Olympaidd.
Synnwyd sawl cwsmer wrth weld llun cardboard maint bywyd, 6 throedfedd un fodfedd, o Dai ymhlith y ffrwythau wrth i’r staff werthu bananas, ceirios a bresych ar stondin marchnad boblogaidd y teulu dros y penwythnos.
Meddai Will Seward: “Roedd yn llawer o hwyl cael seren fel Dai ar y stondin, hyd yn oed fersiwn gardbord ohono, oherwydd roedd pawb eisiau cael llun o Dai ymhlith y bananas a’r orennau.”
Y cyntaf i weld Dai a nodi hynny ar Facebook oedd Clive Jones o Lanelli, sy’n ennill powlen o ffrwythau.
Mae hyn i gyd yn rhan o gystadleuaeth i baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd dros yr haf, wedi’i seilio ar y cwestiwn: Ble mae Dai Greene?
Dylai unrhyw un sy’n cael cip ar Dai ar ddydd Gwener mewn siop neu stondin marchnad yng nghanol y dref drydar eu bod wedi ei weld er mwyn cael cyfle i ennill gwobr. Ble bydd e’r dydd Gwener yma? Bydd enillwyr yn cael eu dewis ar hap. Gallwch hefyd ddilyn y chwilio ar Twitter gan ddefnyddio hashtag #spotDaiGreene neu safle Facebook Cyngor Sir Caerfyrddin.
Magwyd Dai yn Felin-foel, ac aeth i Ysgol y Coedcae. Ef yw un o brif obeithion Prydain o ran ennill medal yn “ras ffyrnig” y Gemau Olympaidd, y 400 metr dros y clwydi.
Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw Trydar neu nodi ar safle Facebook y cyngor pan welwch chi Dai Greene dros

gyfnod y gystadleuaeth, o’r dydd Gwener yma ymlaen, Gorffennaf 6ed, 13eg, 21ain ac 28ain.