MAE’R tâl a godir ar grwpiau Sir Gâr am ddefnyddio canolfannau addysg wedi’i adolygu.
Bydd y ffioedd newydd a gyflwynir ar 1af Medi yn helpu i sicrhau system decach a mwy cyfartal i bobl sy’n defnyddio’r canolfannau ac yn helpu i gynnal y ddarpariaeth.
Caiff y cynnydd ei gyflwyno’n raddol i grwpiau sydd wedi bod yn talu lawer yn llai na’r gyfradd economaidd gyfredol – llai na’i hanner mewn rhai achosion.
Ddechrau’r haf cynhaliodd yr Awdurdod adolygiad o’r ffioedd am rentu ystafelloedd ym mhob un o’r saith Canolfan Addysg Gymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Dangosodd yr adolygiad fod y cyfraddau’n amrywio o ganolfan i ganolfan ac nad oedd cysylltiad uniongyrchol â pholisi gosodiadau canolog y Cyngor Sir.
Mae’n hysbys i bawb fod pwysau ariannol ar holl gyrff y sector cyhoeddus ar hyn o bryd – gan gynnwys y Cyngor Sir – ac mae’r pwysau hwnnw wedi golygu fod yn rhaid i wasanaeth addysg gymunedol yr Awdurdod gael y refeniw mwyaf posibl o rent pob un o’r canolfannau addysg gymunedol i ddiogelu eu dyfodol. Esboniwyd wrth yr holl grwpiau sy’n defnyddio canolfannau addysg gymunedol Sir Gâr y bydd y ffi am rentu ystafell yn codi’r mis nesaf (Medi 2010). Ar hyn o bryd, cynhelir 32 sesiwn ar gyfer clybiau a grwpiau ar wahân i’r ddarpariaeth Addysg Gymunedol. Mae’r rhan fwyaf eisoes wedi ateb yn dweud eu bod yn awyddus i barhau i ddefnyddio’r ganolfan. Un grŵp yn unig sydd wedi dweud nad yw’n awyddus i barhau i ddefnyddio’r ganolfan oherwydd y cynnydd yn y ffioedd.
Yn ôl Matt Morden, rheolwr rhwydweithiau dysgu gydol oes y Sir, “Y ffi gyfredol i grwpiau (ac ysgolion) am rentu ystafell yw £8.56 yr awr (dydd Llun i ddydd Sadwrn) a £11.33 ar ddydd Sul. Er hynny, rydym yn sylweddoli fod rhai grwpiau yn talu lawer yn llai na hyn am ystafell, ac felly rydym yn codi’r rhent yn raddol i helpu i ysgafnhau’r baich. Rydym yn sylweddoli fod hyn yn gynnydd sylweddol yn y ffioedd, ond bydd y newidiadau hyn yn sicrhau fod y ffioedd a godir am ddefnyddio ystafell yn y canolfannau addysg gymunedol yr un peth â’r hyn a godir am ddefnyddio adeiladau addysg eraill y Cyngor. Byddant yn help i sicrhau fod gennym ddigon o refeniw i gadw’n canolfannau ar agor at ddefnydd dysgwyr ac amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol.”
"Mae Theatr Ieuenctid Myrddin wedi bod yn defnyddio canolfan Caerfyrddin ers 12 mlynedd. Nhw yw’r unig rai sy’n defnyddio’r Ganolfan ar ddydd Sul ac mae hynny’n golygu fod angen i ni ddarparu gofalwr i agor a chau’r adeilad. Ar hyn o bryd maen nhw’n talu am dair awr, er eu bod mewn gwirionedd yn defnyddio’r ganolfan am chwe awr bob wythnos. Gan nad yw hynny’n ddigon i dalu’r holl gostau, mae angen i ni adolygu’n ffioedd i sicrhau fod gennym wasanaeth gwerth chweil ar adeg o doriadau yn y sector cyhoeddus.”
Dylid nodi fod y trefniadau’n cael eu cymhlethu fwy fyth gan y cyfyngiadau presennol ar y taliadau goramser i staff y Cyngor. Yn ôl Clive Scourfield, yr aelod o fwrdd gweithredol y Cyngor dros adfywio a gwasanaethau hamdden: “Ar ôl edrych yn fanwl ar y ffioedd am ddefnyddio cyfleusterau’r Cyngor, gwelwyd fod amrywiaeth eang ac annheg yn y ffioedd a godi ar amryfal grwpiau ledled y Sir. Mae ein swyddogion wedi gweithio’n galed i sicrhau fod y ffioedd yn gyfartal i bawb ac y byddant yn ddilys pan ddaw hi’n fater o graffu arnynt o safbwynt cyfrifyddu. Rydym yn hyderu y bydd y ffioedd newydd yn helpu i sicrhau y bydd y cyfleusterau ardderchog a ddarperir gan y Cyngor yn parhau yn y dyfodol.