MAE teuluoedd yn cael eu hannog i fod yn greadigol y Nadolig hwn mewn digwyddiad arbennig a gynhelir ger Tŵr y Cloc, Caerfyrddin.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn, 26 Tachwedd rhwng 10am a 2.30pm a bydd cyfle i bobl greu addurniadau a chardiau Nadolig fel rhan o ddathliadau Gorymdaith y Ceirw.
Unwaith eto mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymuno â Thrysordy, yr elusen sy'n annog pobl i gymryd rhan mewn celf a chrefft gan ddefnyddio sbarion a gesglir o fusnesau lleol.
Cynhaliwyd digwyddiad tebyg ger Tŵr y Cloc, ar bwys Marchnad Dan Do Caerfyrddin, yn ystod yr haf a oedd yn boblogaidd iawn lle roedd ymwelwyr o bob oedran wedi helpu i greu collage yn darlunio cymuned ffyniannus y farchnad.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Bydd hwn yn ddigwyddiad hyfryd i'r holl deuluoedd a fydd yn dod i'r dref i groesawu Siôn Corn a'i geirw.”