Mae cynllun grantiau, sef Cefnogi Ffermwyr i Arallgyfeirio, wedi'i gyflwyno yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin i gynorthwyo ffermwyr sydd am arallgyfeirio i weithgareddau nad ydynt yn ymwneud ag amaeth.
Mae gan RDP Sir Gâr (Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gaerfyrddin), sy'n un o sefydliadau Cyngor Sir Caerfyrddin ac sydd â swyddfeydd yng Nghanolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru, grantiau gwerth hyd at £50,000 i addasu adeiladau diangen er mwyn eu defnyddio at ddibenion busnes ac mae ganddo grant arall gwerth hyd at £10,000 ar gyfer offer cyfalaf.
Ehangu sail economaidd y Sir Gaerfyrddin wledig yw nod y prosiect ac ar yr un pryd ddiogelu dyfodol teuluoedd sy'n ffermio yn yr ardal. Y prif amcanion yw cynnal a chynyddu incwm teuluoedd sy'n ffermio a chadw pobl ifanc yn y diwydiant amaeth drwy eu cynorthwyo i ddatblygu ffynonellau eraill o incwm a datblygu cyfleoedd gwaith amgen.
Astudiaeth achos
Mae Nerys Llewelyn Jones sy'n wraig fferm ac yn entrepreneur ifanc o Lanwrda ar ei hennill yn sgil grant gan RDP Sir Gâr sef grant y mae'n ei ddefnyddio i addasu adeilad fferm diangen yn swyddfa ar gyfer ei busnes newydd: Agri Advisor.
Mae cwmni Agri Advisor yn cynnig cyngor cyfreithiol i ffermwyr ac i berchenogion tir ynghylch pob mater amaethyddol gan gynnwys cynlluniau y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), Cynllunio Olyniaeth, profiannau ystadau fferm ac anghydfodau yn ymwneud â thir. Sefydlodd Nerys y busnes y llynedd i gynnig gwasanaeth cyfreithiol unigryw a phwysig i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Gyda'i gŵr, mae Nerys yn ffermio hefyd yn Henllan ym Mhumsaint a'i chefndir ym myd amaeth sydd o gymorth iddi ddarparu gwasanaeth sy'n bwrpasol i anghenion ei chleientiaid.
Mae gan RDP Sir Gâr amrywiaeth o brosiectau a gynlluniwyd er mwyn helpu i adfywio y Sir Gaerfyrddin wledig a chafodd Nerys ragor o gymorth gan rai o'i gynlluniau eraill gan gynnwys: Dewis Menter (cymorth busnes), Mentro (gwasanaeth cynghori i entrepreneuriaid ifanc) a'r Grant Adeiladau Gwledig Diangen*.
Mae bron £12 miliwn o gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig wedi cael ei fuddsoddi yn yr ardal er 2011 er mwyn gwella ansawdd bywyd busnesau gwledig, ffermwyr, cymunedau ac unigolion.
Meddai Nerys: “Roedd cychwyn busnes newydd yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni yn andros o gam mawr, yn arbennig pan ydych yn gweld yr ystadegau ynghylch nifer y busnesau sy'n methu cyn pen y flwyddyn gyntaf o fasnachu. Er yr amheuaeth y gwelwch eraill yn eu mynegi'n aml ynghylch eich menter fusnes, rwyf mor falch i mi roi cynnig arni ac ymddiried yn fy ngallu i gynnal ac i reoli fy musnes fy hun.
“Braf o beth yw cael eistedd wrth ddesg mewn swyddfa ac edrych allan ar gae lle mae defaid yn pori. Mae’n wych gallu gweithio heb orfod teithio mwy na 10 llath i'r gwaith. Y cymorth a gefais gan RDP Sir Gâr sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.”
Meddai'r Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Mae'n wych gweld yr effaith mae'r cyllid RDP yn ei chael o ran galluogi busnesau rhagorol, newydd i gael eu sefydlu yn Sir Gaerfyrddin.
“Hoffwn ddymuno'n dda i Nerys Llewelyn Jones yn ei busnes newydd sydd nid yn unig yng nghefn gwlad ond sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth pwysig i'r gymuned wledig.”
*Mae'r prosiectau hyn yn cael eu hariannu gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru, 2007–2013, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.