Digwyddiad i hoelio sylw ar gamdrin oedolion
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 18/1/2012
Digwyddiad i hoelio sylw ar gamdrin oedolion 

Bydd sylw'n cael ei roi i droseddau casineb, niwed, esgeulustod, a chamdriniaeth yn erbyn pobl anabl mewn digwyddiad arbennig yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd Bwrdd Diogelu Oedolion Sir Gaerfyrddin yn cynnal digwyddiad 'lle agored' ym mis Chwefror i amlygu'r camau y gall pobl eu cymryd i'w diogelu eu hunain - neu'r bobl y maent yn gofalu amdanynt - rhag dioddef yn sgil troseddau.

Caiff y digwyddiad ei gynnal yng Nghanolfan y Dywysoges Gwenllian ar Chwefror 7, a chynigir y llefydd yn ôl trefniant 'cyntaf i'r felin'.
Gall defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, pobl broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a'r cyhoedd fynd yno.

Dywedodd Bruce McLernon, y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd, a Thai a Chadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Sir Gaerfyrddin:  “Mae diogelu'n fater sy'n berthnasol i bawb, a bydd y digwyddiad hwn yn amlygu'r gwahanol ffyrdd y gall pobl agored i niwed gael eu camarwain, y gwahaniaethu sy'n digwydd yn eu herbyn, ynghyd â'r gamdriniaeth gorfforol a meddyliol.
Mae'n ddigwyddiad lle agored, sy'n golygu y bydd pobl yn gallu symud o gwmpas i siarad â gwahanol bobl, i wylio arddangosiadau, ac i gasglu gwybodaeth a fydd yn eu helpu."

Y prif bwnc y rhoddir sylw iddo ar y dydd yw troseddau casineb yn erbyn pobl anabl - beth ydynt a'r hyn y gall pobl ei wneud yn eu cylch.

Trwy wneud pobl yn fwy ymwybodol o'r gwahanol fathau o gamdriniaeth ac o sut y gallant roi gwybod am eu pryderon, y gobaith yw y bydd pobl o bob cefndir, gallu, a sefyllfa mewn safle cryfach o ran sefyll i fyny drostynt eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Pat Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  “Rydym ni am i bawb fyw'n ddiogel ac yn hapus, heb ofni casineb na chamdriniaeth. Mae'n hollbwysig ein bod yn helpu pobl i sylwi ar arwyddion y gallai pobl fod yn dioddef yn sgil pobl ddiegwyddor sy'n cymryd mantais ar amgylchiadau. Rwyf wir yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn helpu llawer iawn o bobl."

Rhaid archebu lle ymlaen llaw fel y gellir rhoi sylw ar y dydd i unrhyw anghenion penodol.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01267 228703.