Egnïo Hapusrwydd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/12/2011
Egnïo Hapusrwydd 

Mae gennym ni dreftadaeth falch yng Nghymru am gynhyrchu egni am y byd. Y Gyfnewidfa Glo yng Nghaerdydd, yn enwog, oedd y lle ble cafodd y siec gyntaf 1 miliwn o bunnau ei ysgrifennu gan Y Llynges UDA am glo ager Cymraeg.
Ond mae Brenin Glo wedi marw, ac rydym ni’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyflenwadau olew fforddiadwy. Mae yna ganlyniadau amgylcheddol enfawr ar y gorwel o achos ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil dros gant o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod yma rydym ni wedi rhyddhau miliynau o flynyddoedd werth o garbon wedi’i storio i mewn i’n atmosffer bregus.
Mae arolwg o hapusrwydd wedi bod yn cymryd lle yn yr UDA ar y rhan fwyaf o’r amser yma. Fe ddangosodd oedd bobl ar y mwyaf  hapus yn 1956. Er ein bod ni’n pum gwaith yn fwy cyfoethog nawr na beth oeddwn bryd hynny. Y rheswm am ein hanfodlonrwydd cymharol, mae’n ymddangos, yw ein diffyg perthyn i Gymuned. Mae ein dyfeisiau electroneg wedi ein gadael ni’n unig.
Gall yr argyfwng egni cael ei weld fel cyfle i ailfywiogi ein Cymunedau.
Yn hytrach na bod cwmnïau rhyngwladol mawr yn pennu’r telerau, fel yn nyddiau'r pyllau glo brig, a’r datblygiadau trwsgl o’r cyfleustodau tyrbinau gwynt. Gall Cymunedau arwain y gwaith o wneud perchnogaeth o gynhyrchu egni a bwyd yn fwy lleol. Bydd tyrbin gwynt mawr yn rhwyddach i oddef os ydy e’n ariannu ffyniant yn yr ardal leol.
Rydym ni’n gallu ffurfio clybiau tanwydd i arbed 10% yn uniongyrchol ar filiau. Mae’r clybiau yma yn gallu dechrau sgyrsiau am inswleiddio cartrefi a dileu Tlodi Tanwydd. Mae’r Gymdeithas Egni Cenedlaethol (CEC) yng Nghymru yn amcangyfrif bod 390, 000 o gartrefi yng Nghymru yn cael eu diffinio fel cartrefi sy’n eu cael hi’n anodd delio â biliau egni. Mae eisiau i ni drefnu ac amddiffyn yn erbyn cynyddiadau egni mawr yn y dyfodol.
Yn barod mae yna lawer o enghreifftiau gwych yng Nghymru. Mae Talybont-on-Usk yn ennill symiau mawr o arian o egni dŵr a haul. Mae wedi defnyddio’r arian yma i gryfhau bob agwedd o fywyd Cymunedol. Mae’n ymddangos ei fod e’n talfyriad o bentref hapus, ffyniannus.
Mae’n sicr mai defnyddio’r arian o egni adnewyddadwy i ariannu inswleiddio cynhyrchu bwyd, sinema, swyddfa bost, neuaddau pentref, cymdeithasau, dosbarthiadau ‘Pilates, cic - focsio a dathliadau yw’r ffordd ymlaen.
Mae’n ymddangos fod olew ddim yn ein gwneud ni’n hapus. Mae’n rhaid bydd Cryfhau Cymunedau yn.
Mae Menter Cwm Gwendraeth yn hyrwyddo'r syniadau yma yn effeithiol. Cysylltwch â ni os oes angen cymorth.