Employment Site

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Safle Cyflogaeth 

 

  

Mae Bwrdd Gweithredol Sir Gaerfyrddin wedi ymweld â safle cyflogaeth arfaethedig yn Cross Hands.

Nod y buddsoddiad o £13.5 miliwn yw datblygu parc cyflogaeth strategol newydd yn nwyrain Cross Hands sy'n gallu cyflogi mwy na 1,000 o bobl.

 

Bydd y prosiect yn cynnig lleiniau â phob gwasanaeth i ddiwallu anghenion busnesau lleol sy'n dymuno dechrau neu ehangu, yn ogystal â chynnig cyfleoedd am fewnfuddsoddi.

 

Y nod yw rhoi isadeiledd i Sir Gaerfyrddin a Chymoedd y Gorllewin ar gyfer datblygu economi leol gystadleuol a darparu digon o dir cyflogaeth addas i ddiwallu'r galw dros y 10-15 mlynedd nesaf.

 

Mae'r cyllid yn cynnwys £9 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhaglen Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a grant Trafnidiaeth.  Bydd y datblygiad yn cael ei reoli a'i weithredu gan Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n buddsoddi £4 miliwn yn y cynllun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio:

 

 Ein nod yw sicrhau bod gan Sir Gaerfyrddin dir cyflogaeth o'r radd flaenaf er mwyn denu buddsoddiad a darparu swyddi yn y dyfodol.”

 

Mae gwaith penodol yn cynnwys ffordd fynediad newydd o'r A48, adeiladu ffordd fewnol newydd, darparu cyfleustodau cyhoeddus a thirlunio. Mae'r cynigion yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ac mae trafodaethau'n parhau ynghylch gwerthu rhai darnau o dir.

 

Pennawd: Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol yn cael golwg ar y safle cyflogaeth strategol yn Cross Hands.Follow us on Facebook

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/1/2012