Electoral Commission help for independent election candidates

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Cymorth y Comisiwn Etholiadol ar gyfer ymgeiswyr etholiad annibynnol 

Mae’r Comisiwn Etholiadol, y corff gwarchod etholiadau annibynnol, yn cynnig sesiynau hyfforddi ar gyfer pobl sy'n dymuno sefyll fel ymgeiswyr annibynnol mewn etholiadau llywodraeth leol eleni yng Nghymru.

 

Dywedodd Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa Cymru'r Comisiwn Etholiadol:

 

“Mae'n bwysig bod y rhai sy'n ystyried sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol arfaethedig yng Nghymru yn gwbl ymwybodol o'r rheolau a'r rheoliadau sydd yn eu lle.

 

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r awdurdodau lleol perthnasol a gyda darpar ymgeiswyr i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chyfleu’n effeithiol, gan wneud y broses o sefyll am etholiad mor syml â phosib.”

 

Mae dwy sesiwn hyfforddi, yn cael eu cynnal ar:

  • Dydd Llun 5 Mawrth yn Llanelli
  • Dydd Mercher 7 Mawrth yn Aberystwyth.

Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar bob agwedd sy'n gysylltiedig â sefyll etholiad gan gynnwys enwebiadau, ymgyrchu, y cyfrif a gwariant etholiad, a bydd yn cynnwys cyflwyniadau manwl gan staff y Comisiwn yn ogystal â Swyddog Canlyniadau awdurdod lleol penodol.

 

Dylai unrhyw un sy'n dymuno mynychu gysylltu â'r Comisiwn Etholiadol ar 02920 346800. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim. Bydd sesiynau pellach yn cael eu trefnu os oes galw mawr. Bydd y Comisiwn hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi ar gyfer ymgeiswyr plaid sy'n dymuno sefyll yn yr etholiadau hyn (manylion ar gael drwy bencadlys y pleidiau perthnasol).

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Swyddfa'r Wasg Cymru ar 02920 346810, Tu Allan i Oriau 07917 038553Dilynwch ar Facebook.

 

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/2/2012