
Mae gwersylloedd gweithgareddau Bizzy Bees yn ystod y gwyliau hanner tymor ar gyfer plant rhwng 8 a 12 oed. Bydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal yng Nghanolfannau Hamdden Dyffryn Aman, Caerfyrddin a Llanelli.
Gall eich plant roi cynnig ar y canlynol: tennis bwrdd, nofio, caiacio, trampolinio, polo dŵr a llawer mwy!
I archebu eich lle, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.actifsirgar.co.uk.
Gellir archebu ar gyfer diwrnodau unigol neu'r wythnos yn gyfan.