Dwsinau o ddigwyddiadau ar gyfer wythnos fawreddog ailagor Llyfrgell Llanelli

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Dwsinau o ddigwyddiadau ar gyfer wythnos fawreddog ailagor Llyfrgell Llanelli 

Bydd dwsinau o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn Llyfrgell Llanelli i ddathlu wythnos fawr ei hailagor yn dilyn cwblhau £3.8 miliwn o waith adnewyddu.

 

Bydd y rhaglen yn dechrau ag ailagor yr adeilad ddydd Llun, 5 Mawrth a bydd y rhaglen yn para tan ddydd Gwener, 9 Mawrth.

 

Bob dydd, gall ymwelwyr gystadlu yng nghwis y llyfrgell a chael cyfle i ennill e-ddarllenydd, cael eu tywys o amgylch yr adeilad, cwrdd â'r staff, gweld y Dewin Darllen, neu fwynhau te, coffi a bara brith.

Ar 5 Mawrth, bydd Norman un o gymeriadau cyfres Sam Tân yn ymweld â'r llyfrgell, a bydd y Phoenix Theatre Group yn cyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith. Bydd yr arlunydd Nina Morgan yn cyflwyno arddangosfa gan ddisgyblion Ysgol Dewi Sant a bydd Phil Cullen yn siarad am y casgliad mapiau a chynlluniau. Bydd Côr Ysgol Pentip yno i'ch diddanu a bydd cyfle i sgwrsio â haneswyr lleol. Bydd yr awdures Catrin Collier yn ymweld â'r llyfrgell a bydd sioe yn arddangos dawnsiau neuadd a lladinaidd.

 

I'r plant, bydd amser stori i'r rhai dan 5 oed, ynghyd â sesiwn crefftau a stori marchogion a thywysogesau.

 

Ar 6 Mawrth, bydd plant o Ysgol Pentip yn ymweld, a bydd amser stori'r Gryffalo yn cael ei gynnal. Ar 7 Mawrth bydd sesiwn amser stori i deuluoedd Pwylaidd, a chyfle arall i gwrdd â haneswyr lleol. Ar 8 Mawrth, bydd plant o Ysgol Penygaer yn ymweld a bydd gweithdy Hanes Cymru yn cael ei gynnal. Bydd sgwrs yn cael ei rhoi ynghylch byw a gweithio yn Llanelli yn y gorffennol o safbwynt plentyn.

 

Ar 9 Mawrth, bydd y Phoenix Theatre Group yn cyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith a bydd dosbarth arall yn ymweld â'r llyfrgell. Hefyd, bydd y llyfrgell yn cael ei hagor yn swyddogol am 12.30pm ar y diwrnod hwnnw.

 

Mae'r wythnos o weithgareddau'n cael ei chynnal i ddathlu cwblhau'r gwaith adfer a oedd yn cynnwys diogelu a gwarchod rhan hynaf yr adeilad – sef y Ddarllenfa (yr Athenaeum) sy'n nodwedd restredig Gradd 2 ac yn un o adeiladau hynaf canol y dref. Mae'r adeilad yn cynnwys llyfrgell gyfeirio, llyfrgell plant, llecyn arddangos celfyddydau/crefftau, ystafell fideo-gynadledda/hyfforddi, ac atriwm helaeth.

 

Cam tri o'r adnewyddu yw'r gwaith hwn, ac mae'n dilyn atgyweiriadau helaeth a wnaed yn rhan fwy newydd yr adeilad sydd wedi darparu llyfrgell fenthyca newydd i oedolion, llecyn benthyca CD/DVD ac ystafell TG o'r radd flaenaf sydd â chyfleusterau ar gyfer 27 o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd.  Hefyd cafodd ‘Canolfan Dychwelyd i Ddysgu’, sy'n darparu gwasanaeth sgiliau sylfaenol, ei chynnwys yn y llyfrgell fenthyca i oedolion yn 2006.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwynne Wooldridge sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Bydd yr wythnos hon sy'n llawn gweithgareddau yn cynnig cyfle i bawb alw draw a gweld drostynt eu hunain y gwaith rhagorol sydd wedi'i gwblhau, a hefyd y cyfleusterau niferus y mae'r llyfrgell yn eu cynnig.”

 

Mae'r gwaith i lwyr adnewyddu Plas Llanelly, sef yr adeilad rhestredig Gradd 1 cyfagos, hefyd yn symud yn ei flaen. Ynghyd ag Eglwys y Plwyf, y Ddarllenfa yn y llyfrgell a Phlas Llanelly yw tri o'r adeiladau hynaf yng nghanol y dref, ac maent yn llunio'r ardal ddiwylliannol. 

Dilynwch ar Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/2/2012