
Daeth gwesteion o dri chyfandir i ddathlu 100fed pen-blwydd Mrs Dorothy Davidson o Bontargothi.
Yn ogystal cafodd hi gyfle yn ystod y dydd i siarad trwy Skype â'r sawl oedd yn methu teithio i'r dathliad.
Bu Mrs Davidson yn dathlu ei phen-blwydd yn Neuadd Goffa Pontargothi yng nghwmni ei mab a'i merch-yng-nghyfraith, Terry a Sally, ei hŵyr, Jonathan, ynghyd â'i wraig yntau, Tracy, a'u plant Tyler, wyth oed, a Liam, pump oed, yn ogystal â rhyw 110 o westeion eraill, gan gynnwys saith o'r Unol Daleithiau a phedwar o Awstralia. Hefyd bu'n sgwrsio trwy Skype â hen gyfeillion yn Japan.
Cyflwynwyd tusw o flodau i Mrs Davidson gan Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin sef y Cynghorydd Siân Thomas.
Dywedodd Sally, ei merch-yng-nghyfraith: “Roedd hi'n braf fod Mam wedi cael cyfle i sgwrsio â chynifer o hen ffrindiau. Mae hi'n fodern iawn ei ffordd - yn wir mae ganddi iPad ac mae'n anfon negeseuon e-bost at bawb. Cawsom ddiwrnod arbennig.
Yn Llanfihangel-ar-arth y magwyd Mrs Davidson, a bu ym Myddin y Tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan weithio ym maes coedwigaeth. Ar ôl hynny bu'n swyddog cadw tŷ mewn nifer o ysgolion bonedd.
Ychwanegodd Sally: “Mae hi wedi ymweld â llawer o wledydd. Bu'n teithio ar draws yr Unol Daleithiau ar fws Greyhound a bu'n crwydro Awstralia. Bu'n teithio'r byd yn ei chwe degau a'i saith degau a hyd yn oed yn ei hwyth degau!”
