Peidiwch â gadael i broblemau ariannol ddifetha tymor yr Ŵyl
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/12/2011
Peidiwch â gadael i broblemau ariannol ddifetha tymor yr Ŵyl 

Mae gwasanaeth newydd sy'n cynnig cyngor a chymorth ynghylch materion ariannol yn rhad ac am ddim i drigolion cefn gwlad Sir Gaerfyrddin ar gael bellach drwy Gynllun Datblygu Gwledig Sir Gaerfyrddin.
Os oes gennych broblemau yn ymwneud â dyledion ac yn ansicr ble i ddechrau, gallwch gysylltu â Fflur Thomas (Swyddog Dyledion a Budd-daliadau) a'i thîm a byddant yn eich helpu i fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau ariannol yn eich ardal, gan roi cymorth arbenigol lle bo angen.

Mae gan Fflur flynyddoedd o brofiad yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth ac mae'n rhan o adain Adfywio Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin. Yn ogystal â chynnig cymorth yn ymwneud â rheolaeth ariannol, mae'n gobeithio sicrhau bod trigolion cefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn derbyn yr hyn y mae ganddynt hawl iddo oherwydd gallai llawer o bobl hawlio budd-daliadau neu gredydau treth nad ydynt yn gwybod amdanynt.  Gall staff y prosiect gynnal archwiliad ar eich rhan chi yn ogystal â rhoi cymorth yn ymwneud â hawlio ac apelio.
Yn ogystal, maent yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio gyda hi yn y cynllun newydd cyffrous hwn. Darperir hyfforddiant i'ch galluogi i roi cyngor sylfaenol ynghylch dyledion a budd-daliadau a fydd yn gwella eich sgiliau, yn cynyddu eich gobeithion o ran cael gwaith ac yn rhoi profiad gwerthfawr ichi.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud apwyntiad cysylltwch â Fflur Thomas drwy ffonio 01267 242344/ 07717 527252 neu drwy anfon e-bost at: FPThomas@sirgar.gov.uk

Neu os oes well gennych chi siarad â rhywun wyneb yn wyneb, mae cymorthfeydd wedi cael eu trefnu lle gallwch "alw heibio" i'r lleoliadau canlynol:-

• Neuadd y Dref, Hendy-gwyn – bob dydd Llun rhwng 10am a 1pm
• Pwerdy, Pont-tyweli ger Llandysul – bob dydd Mawrth rhwng 12.30pm a 3.30pm
• Swyddfa Gweithffyrdd yn Heol Penuel, Caerfyrddin ar ddydd Mercher o 10am (apwyntiadau yn unig)
• YMCA yn Llanymddyfri bob dydd Gwener rhwng 10am ac 1pm

Cofiwch fod gweithredu'n gyflym yn allweddol a bod gwybodaeth yn galluogi! Manteisiwch ar y gwasanaeth yn awr a byddwch yn gweld y gwahaniaeth y gall ei wneud i'ch bywyd chi a bywyd eich teulu.
Mae'r holl gyngor a roddir yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddiduedd.

Mae'r prosiect Dyledion a Budd-daliadau/Gwirfoddoli yn rhan o gynllun grantiau Cynhwysiad Cymunedau Gwledig Cynllun Datblygu Gwledig Sir Gaerfyrddin a gyllidir gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.