Diwrnod y Bobl Hŷn
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Diwrnod y Bobl Hŷn 
24/09/2010 

Mae Ddiwrnod y Bobl Hŷn ond wythnos i ffwrdd ac mae ystod eang o gynigion arbennig ar gael i bobl dros 50 oed.
Mae Fforwm 50+ Sir Gaerfyrddin a'r Gwasanaethau Hamdden wedi dod at ei gilydd i ddarparu nifer o gynigion arbennig i ddathlu Diwrnod y Bobl Hŷn ar Hydref 1. Daw hyn yn sgil llwyddiant y cynigion y llynedd.
Y cynnig sydd ar gael yng Nghwrs Golff y Garnant yw cael defnyddio'r cwrs pum twll par tri, sy'n gwrs rhagorol, am ddim drwy gydol mis Hydref. Roedd y cynnig hwn yn boblogaidd iawn y llynedd. Rhif ffôn y clwb yw 01269 823365 (www.parcgarnantgolf.co.uk)
Ar Fedi 28 mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnig mynediad am £4 i holl aelodau'r Fforwm 50+ ac i'r sawl sy'n ymuno ar y diwrnod. Dyma gyfle gwych i gael golwg ar liwiau'r hydref yn eu holl ogoniant.
Mae Theatrau Sir Gâr yn dathlu'r diwrnod drwy gynnig dau docyn am bris un i bawb sydd dros 50 oed. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 0845 226 3510, http://www.carmarthenshiretheatres.co.uk/
Bydd y parcio am ddim ym Mharciau Gwledig Gelli Aur, Llyn Llech Owain , a  Phen-bre ar  Hydref 1 lle bydd digonedd o bethau i'w gweld a'u gwneud, gan gynnwys mynd ar hyd rhai o'r llwybrau natur. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Barc Gwledig Pen-bre (01554 833913), Parc Gwledig Gelli Aur (01558 668885), neu Barc Gwledig Llyn Llech Owain (01269 832229).
Gall pobl 50+ ymuno â'r Cynllun Tocyn Hŷn a Heini heb dalu'r ffi ymuno o £10, os ymunant â'r cynllun ar Hydref 1. Mae'r cynllun hwn yn cynnig gostyngiad o hyd at 40 y cant ar ffïoedd y gweithgareddau yng Nghanolfannau Hamdden y Cyngor.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cyfle i nofio am ddim ym mhyllau'r cyngor ar Hydref 1 i bawb sydd dros 50 oed. Pam nad ymunwch chi â'r Cynllun Tocyn Hŷn a Heini pan fyddwch yno? Ffoniwch 01267 236865, (www.sirgar.gov.uk/hamdden).
Beth am ymuno â'r Fforwm 50+ er mwyn gallu manteisio ar gynigion yn y dyfodol? Nid oes tâl aelodaeth i'w dalu. Bydd y Fforwm yn anfon gwybodaeth ddefnyddiol atoch, a byddwch yn gallu mynegi eich barn am wasanaethau'r Cyngor a sefydliadau cyhoeddus eraill.
Cysylltwch â Ruth Lake drwy ffonio 01267 234567 neu drwy anfon neges e-bost at 50+forum@sirgar.gov.uk
Bydd angen dangos prawf oedran ar gyfer yr holl gynigion.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Hyrwyddwr 50+ Sir Gaerfyrddin: “Dim ond wythnos sydd i fynd tan Diwrnod y Bobl Hŷn ac rwyf yn gobeithio y bydd llawer o bobl yn manteisio ar yr holl gynigion cyffrous hyn.
Hefyd mae Diwrnod y Bobl Hŷn yn gyfle delfrydol i ymuno â'r Fforwm 50+ ac i ddweud eich dweud.”
Old Peoples Day