Mae'r ymgyrchwyr amgylcheddol 'Cadwch Gymru'n Daclus' yn galw am wirfoddolwyr i helpu i lanhau traeth Llansteffan mewn ymgais i'w adfer i'w hen ogoniant.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener y 24ain o Chwefror am 10.00am, a gofynnir i'r gwirfoddolwyr gwrdd yn ymyl y biniau ailgylchu ym maes parcio'r traeth lle byddant yn cael cyfarfod anffurfiol byr. Bydd yr holl offer a chyfarpar (heblaw am ddillad) yn cael eu darparu.
Ar y cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin caiff y digwyddiad ei gydlynu gan y prosiect Trefi Taclus, sef menter gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio adfer parch yng ngwedd pentrefi, trefi, a chefn gwlad Cymru.
Dywedodd Daniel Snaith, Swyddog Prosiectau Cadwch Gymru'n Daclus ar gyfer Sir Gaerfyrddin: “Yn anffodus mae sbwriel yn rhywfaint o broblem ar y traeth, ac mae peth ohono'n cael ei gludo gan y llanw. Felly rydym ni'n gofyn i'r bobl sy'n byw yn y cymunedau cyfagos i dreulio ychydig oriau yn ei lanhau.”
Ychwanegodd: "Gallai'r math hwn o fenter fod o fudd i iechyd y sawl sy'n cymryd rhan, ynghyd â chreu gwell amodau byw i fywyd gwyllt lleol. Rydym ni wedi cynnal digwyddiadau tebyg ar y traeth o'r blaen, ac er bod nifer y gwirfoddolwyr yn galonogol bryd hynny, byddem ni'n gallu gwneud cymaint yn fwy pe bai ychydig yn rhagor o gymorth gennym."
Mae swyddogion prosiectau Cadwch Gymru'n Daclus yn gweithio mewn cymunedau ledled Cymru ac yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol. Maent yn annog cymunedau i ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu hardaloedd lleol ac yn helpu gwirfoddolwyr i gynnal amryw o brosiectau er mwyn gwneud gwelliannau amgylcheddol, yn cynnwys codi sbwriel, cynnal a chadw llwybrau, gwella mynediad i'r anabl, datblygu gerddi cymunedol a rheoli cynefinoedd.
