Mae cyrsiau cyfrifiadurol i ddechreuwyr yn boblogaidd iawn eisoes yn Llyfrgell Rhydaman.
Roedd y cwrs cyntaf a gynhaliwyd yn y Flwyddyn Newydd yn llwyddiannus iawn, ac mae ail gwrs yn cael ei gynnal a fydd yn dechrau ddydd Gwener, 3 Chwefror am 10.00am.
Mae'r cwrs Clic Cyntaf yn cael ei gynnal yn y llyfrgell ar dri bore Gwener rhwng 10.00am a 12.30pm, gan orffen ar 17 Chwefror.
Cwrs ar gyfer dechreuwyr yw hwn, ac unrhyw un nad yw erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o'r blaen ac sydd efallai'n nerfus ynghylch gwneud hynny.
Dylid archebu lle ymlaen llaw. Ffoniwch Lyfrgell Rhydaman (01269 598150) neu galwch heibio i adael eich enw a'ch rhif ffôn.
