Cwtsh y Ddraig
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cwtsh y Ddraig 
25/01/2011 

Mae entrepreneuriaid ifanc sy’n byw yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin wedi mynegi eu syniadau o flaen panel o arweinwyr busnes lleol mewn cystadleuaeth gyffrous o’r enw Cwtsh y Ddraig.
Cynhaliwyd rownd derfynol cystadleuaeth Cwtsh y Ddraig Cyf.le yng Nghanolfan Celf y Llwyfan yng Nghaerfyrddin ynghyd â noswaith rhwydweithio busnes.
Rhoddwyd 10 munud i’r chwech a gyrhaeddodd y rhestr fer i ddwyn perswâd ar y dreigiau busnes i wario eu harian drwy  fuddsoddi yn eu busnesau, mewn ffordd debyg i’r gyfres deledu  ‘Dragon’s Den’. Rhoddodd busnesau lleol eu dwylo yn eu pocedi i noddi’r wobr o £900.
Yr enillydd oedd Shelley Williams, o Vintage Tea Party Experience, a derbyniodd £500 i fuddsoddi yn ei busnes a fydd yn darparu’r profiad o de parti traddodiadol mewn priodasau ac achlysuron arbennig.
Ennillodd Emma Burgess, sy’n cynhyrchu a dylunio rhoddion o wlân Cymreig, yr  2il wobr o £250. Aeth y  3ydd wobr o £150 i Llŷr Lloyd, a wnaeth argraff ar y beirniaid gyda’i syniad busnes therapi galwedigaethol.
Dywedodd Paul Thomas, swyddog Cyf.le sydd wedi’i  leol ym Menter Cwm Gwendraeth: “Cafodd y beirniaid eu hysbrydoli yn llwyr gan frwdfrydedd, ymroddiad ac ansawdd syniadau busnes  y cystadleuwyr. Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran.”
Dywedodd y Cyngh Anthony Jones, cadeirydd pwyllgor craffu adfywio a hamdden y Cyngor Sir: “Roedd yn noson ddiddorol ac yn pleser gweld y busnesau newydd yn ceisio’u gorau glas i lwyddo fel entrepreneuriaid yn yr ardal.
“Gall ond fod o fudd i Sir Gaerfyrddin ac rwy’n llongyfarch y noddwyr a’r enillwyr.”
Mae’r tîm Cyf.le yn gallu darparu cyfarwyddyd i entrepreneuriaid sy’n ystyried sefydlu busnes newydd a chynnig cymorth i alluogi busnesau sefydledig i ddatblygu a chael gafael ar gyllid grant.
Ariennir Cyf.le drwy Gynllun Datblygu Gweledig Cymru 2007-2013 a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Am wybodaeth bellach a phecyn cais, cysylltwch â: Paul Thomas, swyddog Cyf.le sydd wedi’i  leoli ym Menter Cwm Gwendraeth ar 01269 871600, e-bost: Paul@mentercwmgwendraeth.org.uk <mailto:Paul@mentercwmgwendraeth.org.uk> os gwelwch yn dda.

Llun: O’r chwith, yn y rhes gefn: noddwr Mike Blofield o Towy Projects, noddwr Angharad Rees o Igam Ogam, noddwr Andrew Davies o Towy Projects, cydlynydd Cwtsh y Ddraig Paul Thomas o Fenter Cwm Gwendraeth, Kevin Davies o Geir Cawdor, and Dafydd Jones of TRJ; yn y rhes flaen: yr enillydd Shelly

Cwtsh y Ddraig