Mae Carnifal Cwmamman, a oedd i fod i ddigwydd dros y penwythnos, wedi cael ei ganslo oherwydd tywydd gwael a’r amgylchiadau dan draed.
Mae’r Carnifal, a’r noson Gymraeg ar Nos Wener wedi cael ei ohirio. Mae’r trefnwyr yn ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn dweud eu bod yn gobeithio aildrefnu'r digwyddiad poblogaidd yn ddiweddarach yn yr haf.
