MAE problemau yn dal i gael eu profi gyda ffonau a'r rhyngrwyd yn Llyfrgell Cross Hands ar ôl i bolyn telegraff ger yr adeilad cael ei newid gan BT.
Mae'r llyfrgell ar agor rhwng 10am a 1pm a rhwng 2pm i 6pm i fenthyca neu ddychwelyd eitemau, ond nid yw'n bosibl i gysylltu â nhw dros y ffôn neu i ddefnyddio'r rhyngrwyd yno.
Mae’r staff yn gobeithio bydd y broblem yn cael ei datrys yn fuan ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
