English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/1/2012
Y Sir yn rhoi strwythur taliadau am barcio ar waith  

Mae'r Cyngor Sir wedi mabwysiadu strwythur ar gyfer codi tâl mewn meysydd parcio yn Llanelli, Caerfyrddin a threfi marchnad y sir.
Mae hyn yn sicrhau bod modd i'r trefi barhau i fod yn gystadleuol o'u cymharu â threfi mewn awdurdodau cyfagos a datblygiadau siopa'r tu allan i'r trefi.

Ar hyn o bryd, mae galw mawr am lefydd parcio yng nghanol y trefi ac mae disgwyl y bydd y duedd hon yn parhau hyd y gellir rhagweld.
Mae strwythur taliadau'r Awdurdod yn gystadleuol iawn o'i gymharu â threfi mewn awdurdodau cyfagos, yn enwedig o ystyried gwir gostau teithio mewn car i ganol trefi eraill yn Ne-orllewin Cymru a chostau tanwydd ar hyn o bryd.

Mae'n rhaid parhau i fuddsoddi ym meysydd parcio'r Cyngor er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau'n cael eu cynnal a'u cadw i'r safon angenrheidiol a'u gwella lle bynnag y bydd hynny'n bosibl. Yr unig ffordd bosibl i wneud hyn yw trwy gynhyrchu refeniw priodol.

Mae taliadau am barcio ceir hefyd yn gyfraniad positif i gyllideb Refeniw gyffredinol yr Awdurdod sy'n wynebu pwysau ariannol difrifol dros bedair blynedd fel sy'n digwydd ym mhob awdurdod arall yng Nghymru. Gall incwm o daliadau am barcio ceir helpu i leihau'r pwysau hyn a thrwy hynny helpu i ddiogelu gwasanaethau allweddol a ddarperir gan yr Awdurdod.
Argymhellir bod y taliadau am barcio’n codi'n raddol dros y pedair blynedd nesaf fel y nodir yn Nhabl 1.

Y TALIADAU PARCIO ARFAETHEDIG
 

 

 

 

Y taliadau arfaethedig

Y taliadau arfaethedig

Y taliadau arfaethedig

Y taliadau arfaethedig

 

 

Ionawr 2011

Ionawr 2012

Ionawr 2013

Ionawr 2014

Caerfyrddin

 

 

 

 

 

Arhosiad byr

Hyd at 2 awr

£1.30

£1.40

£1.50

£1.60

 

Hyd at 3 awr

£1.90

£2.00

£2.10

£2.20

 

Hyd at 4 awr

£3.00

£3.20

£3.30

£3.40

San Pedr

Drwy’r dydd

£2.00

£2.10

£2.20

£2.30

Heol y Prior

Drwy’r dydd

 £1.30

£1.40

£1.50

£1.60

Llanelli

 

 

 

 

 

Arhosiad byr

Hyd at 1 awr

£0.70

£0.90

£1.10

£1.20

 

Hyd at 2 awr

£1.30

£1.40

£1.50

£1.60

 

Hyd at 3 awr

£1.40

£1.60

£1.70

£1.80

 

Hyd at 4 awr

£1.50

£1.80

£1.90

£2.00

Arhosiad hir

Drwy’r dydd

£1.80

£2.00

£2.10

£2.20

 

Drwy’r dydd

£1.20

£1.50

£1.60

£1.70

Trefi Marchnad

Hyd at 1 awr

£0.40

£0.50

£0.60

£0.70

 

Hyd at 4 awr

£0.70

£0.80

£0.90

£1.00

 

Drwy’r dydd

£1.20

£1.30

£1.40

£1.50

Rhagwelir y bydd cynyddu'r taliadau am barcio ceir fel y nodir uchod yn creu £710,500 o refeniw ychwanegol y flwyddyn erbyn Mawrth 2014.
Barnwyd bod y cyfle i brynu tocyn tymor am 50% o’r gyfradd dalu ddyddiol yn rhy hael a chynigiwyd gostyngiad o 35 y cant ar y pris llawn y llynedd.
O’r 1af Ionawr eleni mae'r gostyngiad bellach yn 20 y cant.
Rhagwelir y bydd lleihau'r disgownt o 50% i 20% yn creu £51,000 o incwm ychwanegol y flwyddyn.