English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 01/7/2011
Y Cyngor i Adolygu ei Ymagwedd at 'E-lywodraeth’ 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i gynnal adolygiad o'r modd y mae technoleg newydd yn cael ei defnyddio wrth ddarparu gwasanaethau i'r bobl leol.

Bydd y Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau yn ystyried ymagwedd y Cyngor at 'E-lywodraeth' i weld a oes ffyrdd o gynnig gwell mynediad eto at wasanaethau i'r trigolion lleol. 

Dywedodd Chris Burns, Prif Weithredwr Cynorthwyol: “Rydym wedi datblygu gwefan y Cyngor yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r wefan yn cael ei chyrchu oddeutu 9,000 o weithiau bob dydd. Ar yr adegau prysuraf, gall y nifer hwn fod yn llawer uwch. Yn ystod y tarfu oherwydd yr eira yn gynharach eleni er enghraifft, rhwng 8 a 9 y bore yn unig cafodd ein gwefan ei chyrchu 9,000 o weithiau wrth i bobl chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cau ysgolion, cyflwr y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

“Drwy wefan y Cyngor gallwch gyrchu mwy na 100 o wasanaethau erbyn hyn, bob awr o'r dydd a'r nos, gan gynnwys pethau mor amrywiol ag archebu llyfr o'r llyfrgell, hysbysu'r Cyngor am gerbyd a adawyd, gwneud cais am atgyweirio tŷ cyngor neu roi gwybod inni am dwll yn y ffordd, am olau stryd nad yw'n gweithio neu am waredu sbwriel yn anghyfreithlon.

“Hefyd mae'r Cyngor yn defnyddio gwefannau'r cyfryngau cymdeithasu megis Facebook a Twitter, sy'n prysur ddod yn ddull cyfathrebu mwyfwy poblogaidd i'r cyhoedd gael newyddion yn y fan a'r lle a'r wybodaeth ddiweddaraf. Gan ddefnyddio'r safleoedd hyn, gallwn ddarparu dolenni cyswllt i'n gwefan i roi gwybod i bobl am newyddion sydd newydd ddod i law – mae'r dull cyfathrebu hwn yn arbennig o ddefnyddiol pan fo angen inni roi gwybod am faterion megis cau ysgolion neu ffyrdd er enghraifft.”

Un o'r materion y bydd y Pwyllgor yn ei drafod fydd y posibilrwydd o ffrydio fideo o gyfarfodydd y Cyngor ar ei wefan.

Ychwanegodd Mr Burns: “Trafodwyd hyn gennym rai blynyddoedd yn ôl ond bryd hynny, bach iawn oedd nifer y bobl oedd â band eang digon cyflym i allu gwylio fideo dros y rhyngrwyd, ac roedd cost gosod y dechnoleg yn weddol uchel. Ond wrth i'r dechnoleg ddatblygu, mae hyn wedi dod yn fwy o bosibilrwydd a bydd y Pwyllgor yn ystyried a fyddai hyn yn fuddsoddiad gwerth chweil bellach.”

Cyfeiriad gwefan Cyngor Sir Caerfyrddin yw www.sirgar.gov.uk

 Nodyn i'r wasg: I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Laura Morris, Swyddog y Wasg, drwy ffonio 01267 224176.