Children about to go bananas over their school dinners

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Bananas blasus i bwdin i blant ysgol – chwarae teg i fasnach deg 

Mae plant ysgol Sir Gaerfyrddin ar fin cael bwydlenni cinio ysgol ac arnynt bwdinau banana blasus.


Mae miloedd o blant ysgolion cynradd yn edrych ymlaen at gael blasu ciniawau ysgol arbennig i nodi Pythefnos Masnach Deg.


Bydd y plant yn cael dwy fwydlen arbennig  – ac yn bwdin, byddant yn cael pwdin banana Masnach Deg blasus i'w helpu i gyrraedd y 'pump y dydd'.


Ddydd Mawrth, 28 Chwefror, byddant yn mwynhau spaghetti bolognaise cartref gyda phys a bara garlleg, ac yna banana Masnach Deg, hufen iâ a saws siocled poeth cartref.


Ddydd Llun, 5 Mawrth, bydd y cogyddion yn paratoi pryd ffiled o bysgod neu bryd o lysiau wedi'u grilio, gyda thaten bob a chorn melys, ac yna crymbl banana Masnach Deg a chwstard.


Mae pob un wedi'i gynnwys yn y £2, sef y gost arferol am bryd ysgol dau gwrs, cytbwys ei faeth.


Mae Pythefnos Masnach Deg yn hyrwyddo telerau masnach deg i ffermwyr a gweithwyr yn y gwledydd datblygol drwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dalu prisiau cynaliadwy iddynt am eu cynnyrch. Hefyd, nod y pythefnos yw hybu amodau gwaith teg a chynaliadwyedd lleol mewn lleoedd lle mae hanes o wahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf a lleiaf.


Dywedodd Sandra Weigel, Rheolwr Gwasanaethau Arlwyo Sir Gaerfyrddin: Mae'n bwysig ein bod yn dangos ein cefnogaeth i Fasnach Deg am ei bod yn berthnasol iawn i'n hymdrechion i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol sy'n iachus ac yn faethlon gytbwys, ac nad yw’n rhy gostus mewn unrhyw ystyr.”


Dywedodd y Cynghorydd Gwynne Wooldridge, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Sir Gaerfyrddin dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae ein tîm Gwasanaethau Arlwyo bob amser yn mynd gam ymhellach i sicrhau bod y plant yn mwynhau bwyta'n iach, ac mae Pythefnos Masnach Deg yn gyfle perffaith i addysgu'r plant ynghylch o ble y daw gwahanol fwydydd a sut y cânt eu cynhyrchu.”

Dilynwch ar Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/2/2012