Preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn cael cyfle i ennill swydd

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn cael cyfle i ennill swydd 

Mae pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn cael cyfle unigryw i gystadlu am swydd yn y diwydiant adeiladu.
Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn wneud cais i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Camau Nesaf 2012 lle bydd rhywun yn ennill prentisiaeth amser llawn â chyflog.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan Adeiladu Sir Gâr Gyda'n Gilydd, sef partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr a Carmarthenshire Construction Training Association Ltd - a chwmni adeiladu Lloyd & Gravell Ltd a leolir yn Llanelli a Chwm Gwendraeth.
Bydd chwe ymgeisydd yn cael eu dewis i gystadlu mewn timau o ddau, gan frwydro am wobrwyon ac osgoi fforffedion, a cheisio creu argraff dda ar y beirniaid drwy ddangos eu sgiliau adeiladu.
Bydd y gystadleuaeth eleni yn cael ei ffilmio a bydd elfennau o raglenni teledu poblogaidd megis The Apprentice, Big Brother a DIY SOS i gyd yn cael eu cynnwys.
Cynhelir y gystadleuaeth yn ystod Gorffennaf ac Awst a bydd yr un sy'n ennill y brentisiaeth yn cychwyn ar ei leoliad gyda Lloyd & Gravell Ltd ym mis Medi.
Dywedodd Kevin Gravell, Cyfarwyddwr cwmni Lloyd & Gravell: “Mae swyddi a phrentisiaethau'n brin iawn ar hyn o bryd felly mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd am weithio yn y diwydiant adeiladu. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond awydd ac agwedd benderfynol i ddysgu a gweithio fel rhan o'n tîm."
Mae enillwyr blaenorol y Camau Nesaf, sef Iwan Thomas o Frynaman a Jamie Owens o Drimsaran, yn gwneud yn dda yn eu prentisiaethau.
Gan eu bod hwy eu hunain wedi cymryd rhan yn y broses maent yn gwybod beth gall y gystadleuaeth hon ei olygu i unrhyw un sy'n cael ei ddewis i gymryd rhan.
Dywedodd Jamie Owens: "Roedd y gystadleuaeth yn brofiad arbennig, ac roedd pawb a oedd yn rhan ohoni'n wych ac wedi gofalu amdanom ni'n dda. Yn anffodus, nid yw'r pump arall wedi cael yr un cyfle, ond mae pob un ohonom ni ar ein hennill gan ein bod ni i gyd wedi cael dechrau gwych i'n gyrfaoedd adeiladu.”
Ychwanegodd Iwan, a enillodd yn 2010: “Mae ennill y Camau Nesaf wedi newid fy mywyd. Bellach, rwyf ar y ffordd i fod yn saer cymwysedig ac rwy'n datblygu dyfodol diogel ar gyfer fy nheulu."
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yng nghystadleuaeth eleni yw 5pm ddydd Gwener, Mehefin 15fed.
I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i'r wefan: www.nextstepscarmarthenshire.co.uk
Ymunwch â ni er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar hyd y gystadleuaeth drwy ddilyn y ddolen: www.facebook.com/nextstepscarmarthenshireFollow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/5/2012