Mae ffigurau newydd yn dangos bod Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni cyfradd ailgylchu o 48% yn chwarter cyntaf 2011/12.
Mae hwn yn gynnydd o bedwar y cant o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Casglwyd/compostiwyd 9254 tunnell o wastraff y cartref ym mis Ebrill, Mai a Mehefin eleni allan o gyfanswm o 19,300 tunnell.
Mae hwn yn golygu bod Sir Gaerfyrddin bellach yn ailgylchu ac yn compostio bron i hanner o'i gwastraff.
Dywedodd Richard Workman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae'r ffigurau ar gyfer chwarter cyntaf eleni yn dda iawn a hoffwn ddiolch i breswylwyr am eu hymdrechion parhaus i wahanu eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.
"Yn gyffredinol, mae ffigurau Ailgylchu yn uwch yn ystod misoedd yr haf o gymharu ag adegau eraill y flwyddyn oherwydd yr holl wastraff gardd sy'n cael ei anfon i'w gompostio; fodd bynnag, mae'n parhau i ddangos cynnydd o bedwar y cant o'r un cyfnod y llynedd.
"Mae nifer o brosiectau newydd ar waith er mwyn ceisio cynyddu ein cyfradd ailgylchu gan gynnwys prosiect newydd ar y cyd ag Age Cymru Sir Gâr er mwyn helpu pobl hŷn yn y Sir. Yn ogystal, ein nod yw y bydd 100% o'r sir yn rhan o ryw fath o gynllun ailgylchu o dŷ i dŷ erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon."
Mae'r ffigurau wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac wedi cael eu casglu o'r wybodaeth a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer y bas data WasteDataFlow.
Cymru yw'r unig wlad yn y DU i gyflwyno targedau statudol ar gyfer ailgylchu trefol. Y targed statudol cyntaf ar gyfer awdurdodau lleol yw 52% ar gyfer 2012/13.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae llawer o waith ar y gweill yn Sir Gaerfyrddin er mwyn anfon llai o wastraff y cartref i safleoedd tirlenwi ac i gynyddu ein cyfradd ailgylchu.
"Rwyf wrth fy modd â'r ffigurau diweddaraf sy'n galonogol iawn, fodd bynnag mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'r gwaith da ac yn ailgylchu cymaint o'n gwastraff â phosibl er mwyn cyflawni'r targed ailgylchu o 52% ar gyfer 2012/13.
Lansiwyd cynllun ailgylchu'r biniau gwyrdd / bagiau glas ym mis Chwefror 2008 ac mae wedi bod yn llwyddiant anferth. Mae oddeutu 90% o'r sir yn rhan o'r cynllun ond mae llawer o waith ar y gweill er mwyn cynnwys yr aelwydydd nad ydynt yn rhan o'r cynllun.